Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Robert Jones Derfel"

Ychwanegwyd 1,363 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
ehangu / categoriau
(erthygl newydd)
 
(ehangu / categoriau)
[[Bardd]] aac sosialyddawdur rhyddiaith [[Radicaliaeth|Radicalaidd]] oedd '''Robert Jones Derfel''' neu '''R. J. Derfel''' ([[24 Gorffennaf]] [[1824]] - [[17 Rhagfyr]] [[1905]]).
 
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng [[Llandderfel]] a [[Bethel (Meirionnydd)|Bethel]], mab[[Sir Feirionnydd|Meirionnydd]], yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn [[Llundain]] tua [[1848]] pan fu'r [[Siartwyr]] ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "[[Derfel]]" ar ôl symud i weithio ym [[Manceinion]] lle treuliodd y gweddill o'i oes.
 
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r [[Bedyddwyr]] ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.
 
Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn ''[[Y Cymro]]'' a ''Llais Llafur '' rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar [[Robert Owen]] fel [[nawddsant]] Cymru yn lle [[Dewi Sant]].
 
Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad [[Cymraeg]] ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol ''[[Brad y Llyfrau Gleision]]'' yn [[1854]] mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y [[Llyfrau Gleision]] gwrth-Gymraeg.
 
==Llyfryddiaeth==
*''Brad y Llyfrau Gleision'' (1854). Drama.
*''Traethodau ac Areithiau'' (1864)
*''Caneuon Gwladgarol'' (1864). Cerddi.
*''Y Cymro a Llais Llafur '' (1892 - 1903)
*''Munudau Segur'' (Caernarfon, 1863). Cerddi.
*''Caneuon'' (1891).
*''Rhyddiaith R. J. Derfel'' (1945). Dwy gyfrol a olygwyd gan [[Gwenallt]].
 
==Dolennau allanol==
*[http://wbo.llgc.org.uk/en/s-DERF-JON-1824.html Y BiwgraffiadurBywgraffiadur Ar-lein]
 
[[Categori:Beirdd Cymraeg|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Dramodwyr Cymraeg|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Cenedlaetholdeb Cymreig|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Genedigaethau 1824|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Marwolaethau 1905|Derfel, Robert Jones]]