Homo sapiens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
ehangu
Llinell 31:
 
Yn draddodiadol, ceir dau farn am ddechreuad ''H. sapiens''. Mae'r cynta'n dal mai o Affrica maent yn tarddu, a'r ail farn yn honni iddynt darddu o wahanol lefydd ar yr un pryd.
 
Ceir sawl term am y cysyniad 'Allan-o-Affrica' gan gynnwys ''recent single-origin hypothesis (RSOH)'' a ''Recent African Origin (RAO)''. Cyhoeddwyd y cysyniad hwn yn gyntaf gan [[Charles Darwin]] yn ei lyfr ''[[Descent of Man]]'' yn 1871 ond nid enillodd ei blwyf tan y [[1980au]] pan ddaeth tystiolaeth newydd i'r fei: sef astudiaeth o [[DNA]] ac astudiaeth o siap ffisegol hen esgyrn. Oherwydd gwydnwch y dannedd, dyma'n aml yr unig dystiolaeth sy'n parhau oherwydd fod gweddill y corff wedi pydru. Gan ddefnyddio'r ddwy dechneg yma i ddyddio ''Homo sapiens'', credir iddynt darddu o Affrica rhwng 200,000 a 125,000 o flynyddoedd yn ôl. Llwyddodd ''H. sapiens'' i wladychu talpiau eang o'r Dwyrain, ond methwyd yn [[Ewrop]] oherwydd fod yno gynifer o [[Neanderthal|Neanderthaliaid]] yn ffynnu'n llwyddiannus. Erbyn 2015 dyma'r farn fwyaf cyffredin.<ref>Hua Liu, et al. [http://dx.doi.org/10.1086/505436 ''A Geographically Explicit Genetic Model of Worldwide Human-Settlement History'']. ''The American Journal of Human Genetics'', cyfrol 79 (2006), tud 230–237, dyfyniad: ''Currently available genetic and archaeological evidence is generally interpreted as supportive of a recent single origin of modern humans in East Africa. However, this is where '''the near consensus''' on human settlement history ends, and considerable uncertainty clouds any more detailed aspect of human colonization history.''</ref><ref>{{cite web|url=http://www.sciencemag.org/cgi/content/summary/sci;308/5724/921g |title=''Out of Africa Revisited - 308 (5724): 921g - Science'' |doi=10.1126/science.308.5724.921g |publisher=Sciencemag.org |date=2005-05-13 |accessdate=2009-11-23}}</ref> O astudio'r genynnau, credir yn gyffredinol i ''H. sapiens baru gyda Neanderthaliaid.
 
Yr ail farn (a gynigiwyd gan Milford H. Wolpoff yn 1988) yw i ''H. sapiens'' darddu ar ddechrau'r [[Pleistosen]], 2.5 miliwn o flynyddoedd [[CP]] gan esbylgu mewn llinell syth hyd at ddyn modern (yr ''Homo sapiens sapiens'') - hynny yw heb iddo baru gyda Neanderthaliaid.
 
==Gweler hefyd==