Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Homo sapiens"

Ychwanegwyd 15 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
manion
(ehangu)
(manion)
O fewn y dull enwi [[gwyddoniaeth|gwyddonol]], '''''Homo sapiens''''' ([[Lladin]]: "person deallus") yw'r enw rhyngwladol ar fodau dynol, ac a dalfyrir yn aml yn '''''H. sapiens'''''. Bellach, gyda diflaniad y [[Neanderthal]] (ac eraill), dim ond y rhywogaeth hon sy'n bodoli heddiw o fewn y genws a elwir yn ''[[Homo (genws)|Homo]]''. Isrywogaeth yw bodau dynol modern (neu bobl modern), a elwir yn wyddonol yn ''Homo sapiens sapiens''.
 
Hynafiaid pobl heddiw, yn ôl llawer, oedd yr ''[[Homo sapiens idaltu]]''. Credir fod eu dyfeisgarwch a'u gallu i addasu i amgylchfyd cyfnewidiol wedi arwain iddynt fod y rhywogaeth mwyaf dylanwadol ar wyneb Daear ac felly ofe'i leiafnodir fel "pryder lleiaf" ar [[Rhestr Goch yr IUCN|Restr Goch yr IUCN]], sef y rhestr o rywogaethau mewn perygl o beidio a bodoli, a gaiff ei gynnal gan Yr Undeb Ryngwladol Dros Cadwraeth Natur.<ref name=IUCN/>
 
==Enw==
 
==Tarddiad==
Gyda thystiolaeth newydd yn cael ei darganfod yn flynyddol, bron, mae rhoi dyddiad ar darddiad y rhywogaeth ''H. sapiens'' yn beth anodd; felly hefyd gyda dosbarthiad llawer o esgyrn gwahanol isrywogaethau, a cheir cryn anghytundeb yn y byd gwyddonol wrth i fwy a mwy o esgyrn ddod i'r golwg. Er enghraifft, yn Hydref 2015, yn y cylchgrawn ''Nature'' cyhoeddwyd i 47 o ddannedd gael eu darganfod yn [[Ogof Fuyan]] yn [[Tsieina]] a ddyddiwyd i fod rhwng 80,000 a 125,000 o flynyddoedd o oed.
 
Yn draddodiadol, ceir dau farn am ddechreuad ''H. sapiens''. Mae'r cynta'n dal mai o Affrica maent yn tarddu, a'r ail farn yn honni iddynt darddu o wahanol lefydd ar yr un pryd.
 
Ceir sawl term am y cysyniad 'Allan-o-Affrica' gan gynnwys ''recent single-origin hypothesis (RSOH)'' a ''Recent African Origin (RAO)''. Cyhoeddwyd y cysyniad hwn yn gyntaf gan [[Charles Darwin]] yn ei lyfr ''[[Descent of Man]]'' yn 1871 ond nid enillodd ei blwyf tan y [[1980au]] pan ddaeth tystiolaeth newydd i'r fei: sef astudiaeth o [[DNA]] ac astudiaeth o siap ffisegol hen esgyrn. Oherwydd gwydnwch y dannedd, dyma'n aml yr unig dystiolaeth sy'n parhau oherwydd fod gweddill y corff wedi pydru. Gan ddefnyddio'r ddwy dechneg yma i ddyddio ''Homo sapiens'', credir iddynt darddu o Affrica rhwng 200,000 a 125,000 o flynyddoedd yn ôl. Llwyddodd ''H. sapiens'' i wladychu talpiau eang o'r Dwyrain, ond methwyd yn [[Ewrop]] oherwydd fod yno gynifer o [[Neanderthal|Neanderthaliaid]] yn ffynnu'n llwyddiannus. Erbyn 2015 dyma'r farn fwyaf cyffredin.<ref>Hua Liu, et al. [http://dx.doi.org/10.1086/505436 ''A Geographically Explicit Genetic Model of Worldwide Human-Settlement History'']. ''The American Journal of Human Genetics'', cyfrol 79 (2006), tud 230–237, dyfyniad: ''Currently available genetic and archaeological evidence is generally interpreted as supportive of a recent single origin of modern humans in East Africa. However, this is where '''the near consensus''' on human settlement history ends, and considerable uncertainty clouds any more detailed aspect of human colonization history.''</ref><ref>{{cite web|url=http://www.sciencemag.org/cgi/content/summary/sci;308/5724/921g |title=''Out of Africa Revisited - 308 (5724): 921g - Science'' |doi=10.1126/science.308.5724.921g |publisher=Sciencemag.org |date=2005-05-13 |accessdate=2009-11-23}}</ref> O astudio'r genynnau, credir yn gyffredinol i ''H. sapiens baru gyda Neanderthaliaid.
 
Erbyn 2015 dyma'r farn fwyaf cyffredin.<ref>Hua Liu, et al. [http://dx.doi.org/10.1086/505436 ''A Geographically Explicit Genetic Model of Worldwide Human-Settlement History'']. ''The American Journal of Human Genetics'', cyfrol 79 (2006), tud 230–237, dyfyniad: ''Currently available genetic and archaeological evidence is generally interpreted as supportive of a recent single origin of modern humans in East Africa. However, this is where '''the near consensus''' on human settlement history ends, and considerable uncertainty clouds any more detailed aspect of human colonization history.''</ref><ref>{{cite web|url=http://www.sciencemag.org/cgi/content/summary/sci;308/5724/921g |title=''Out of Africa Revisited - 308 (5724): 921g - Science'' |doi=10.1126/science.308.5724.921g |publisher=Sciencemag.org |date=2005-05-13 |accessdate=2009-11-23}}</ref>
 
Yr ail farn (a gynigiwyd gan Milford H. Wolpoff yn 1988) yw i ''H. sapiens'' darddu ar ddechrau'r [[Pleistosen]], 2.5 miliwn o flynyddoedd [[CP]] gan esbylgu mewn llinell syth hyd at ddyn modern (yr ''Homo sapiens sapiens'') - hynny yw heb iddo baru gyda Neanderthaliaid.