Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 25 beit ,  3 blynedd yn ôl
Tir Dogger
[[Image:Doggerbank.jpg|thumb|250px|right|Lleoliad Banc Dogger]]
Banc [[tywod]] anferthol yng nghanol [[Môr y Gogledd]] yw '''Banc Dogger''' ([[Iseldireg]]: ''Doggersbank'', [[Almaeneg]]: ''Doggerbank'', [[Daneg]]: ''Dogger banke''). Saif oddeutu 100 [[cilometr|km]] (62 [[milltir|mill]]) i'r dwyrain o arfordir dwyreiniol Lloegr. Mae gan y tywyn ei hun arwynebedd o 17,600 km<sup>2</sup> (6,800 millt<sup>2</sup>) - gyda'i hyd yn 260 km (160 mi) a'i led yn 97 km (60 mill) - ac mae'n gorwedd 17-36 m (55-120 tr) dan wyneb y dŵr. Mae gwely'r môr o'i gwmpas, ar gyfartaeldd, 20 m (66 tr) yn is.<ref name="Stride">{{cite journal|last=Stride|first=A.H|date=January 1959|title=''On the origin of the Dogger Bank, in the North Sea'' |journal=Geological magazine |volume=96|issue=1|pages=33–34|url=http://geolmag.geoscienceworld.org/cgi/content/abstract/96/1/33|accessdate=12 Ionawr 2010|doi=10.1017/s0016756800059197}}</ref>
 
Gwyr [[pysgod|pysgotwyr]] ers canrifoedd ei fod yn fan gwych i bysgota a daw ei enw o'r Hen Iseldireg am gychod dal [[penfras]].
 
==Daeareg==
Mae'r tir hwn o dan y môr yn debyg i farian, wedi'i ffurfio yn ystod y [[Pleistosen]].<ref name="Stride" /> Ar adegau o'r [[oes yr iâ diwethaf]] roedd yn rhan o'r tir mawr, neu ar adegau yn ynys. Pan cyfeirir ato ar yr adeg yma (pan oedd yn un ag Ynysoedd Prydain) gelwir ef yn ''Doggerland'' (neu Dir Dogger).<ref>{{cite web|author=Laura Spinney |url=http://ngm.nationalgeographic.com/2012/12/doggerland/spinney-text |title=''Searching for Doggerland - National Geographic Magazine'' |publisher=Ngm.nationalgeographic.com |date=2013-04-25 |accessdate=2014-05-01}}</ref>
 
==DoggerlandTir Dogger==
Cysylltai ''doggerland Prydain ag [[Ewrop]]. Diflanodd dan y môr rhwng 6,500-6,200 [[CP]] wrth i lefel y môr godi, ac o bosib mewn [[swnami]] a achoswyd gan 'Lithren Storegga'. yn [[Oes Ganol y Cerrig]] roedd y tir yn gyfoethog iawn, gydag amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yn byw arno.<ref name="usask">[http://geochemistry.usask.ca/bill/courses/Climate/Coastal%20catastrophe%20prt.pdf Patterson, W, "Coastal Catastrophe" (paleoclimate research document), University of Saskatchewan]</ref>