Y Deyrnas Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Varlaam (sgwrs | cyfraniadau)
Varlaam (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 55:
== Hanes ==
{{Prif|Hanes y Deyrnas Unedig}}
Daeth Lloegr yn deyrnas unedig yn y 10fed ganrif. Daeth Cymru, a fu dan reolaeth Seisnig ers [[Statud Rhuddlan]] ym [[1284]], yn rhan o [[Teyrnas Lloegr|Deyrnas Lloegr]] at bwrpasau deddfwriaethol trwy [[Deddf Uno 1536|Ddeddfau Uno 1536]]. Gyda [[Deddf Uno 1707]], cytunodd seneddau [[Lloegr]] a'r [[Yr Alban|Alban]] i uno eu teyrnasoedd fel [[Teyrnas Prydain Fawr]] (er iddynt rannu'r un brenin er [[1603]]). Ym [[Deddf Uno 1800|1800]], cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr â [[Teyrnas Iwerddon|Theyrnas]] [[Iwerddon]] (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o [[1169]] hyd [[1603]]) i greu [[Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon]]. Wedi cread y [[Gweriniaeth Iwerddon|Dalaith Rydd Wyddelig]] ym [[1922]], allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth honno ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym [[1927]].
 
Chwaraeodd y Deyrnas Unedig, gwladwriaeth ddominyddol y [[19eg ganrif]] mewn diwydiant a grym morwrol, rôl sylweddol yn natblygiad [[democratiaeth]] [[senedd]]ol, ynghyd â chyfraniadau pwysig ym myd [[gwyddoniaeth]]. Yn anterth ei grym teyrnasai'r [[Ymerodraeth Brydeinig]] dros chwarter y ddaear. Yn ystod hanner cyntaf yr [[20fed ganrif]] gwanhaodd nerth y DU, yn rhannol oherwydd y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ail hanner y ganrif gwelwyd datgymalu'r Ymerodraeth a chryfhau cysylltiadau â'r [[Ewrop]] fodern a llewyrchus. Serch hynny, er bod y DU yn aelod o'r [[Undeb Ewropeaidd]], mai gwahaniaeth barn ynghylch cryfhau'r cysylltiad gyda'r gwrthwynebiad yn gryfach yn Lloegr. Mae diwygiad cyfansoddiadol yn fater dadleuol ar hyn o bryd: mae [[Tŷ'r Arglwyddi]] wedi cael ei ddiwygio'n ddiweddar ac mae gan Gymru, Gogledd Iwerddon a Llundain gynulliadau gyda graddau gwahanol o bŵer; fe sefydlwyd hefyd senedd yn yr Alban. Ystyrir hefyd cynlluniau ar gyfer cynulliad annibynnol ar gyfer Lloegr. Mae mudiad Gweriniaeth Brydeinig yn cael sylw yn y cyfryngau o bryd i'w gilydd, er bod cefnogaeth i'r frenhiniaeth Brydeinig yn dal i fodoli, yn enwedig yn Lloegr, ond heb fod mor gryf ag yr oedd hi yn y gorffennol: ond dydy'r syniad o gael Gweriniaeth Brydeinig ddim yn cael ei gefnogi gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Llinell 95:
Mae'r rhannau helaeth o dir Lloegr yn fryniog, ond mae'r wlad yn fwy mynyddig yn y gogledd; mae'r llinell rhwng y tiroedd hyn yn rhedeg rhwng yr afonydd Tees ac Exe. Afonydd [[Tafwys]] a [[Afon Hafren|Hafren]] yw prif afonydd Lloegr (er bod yr ail yn tarddu ger [[Pumlumon]] yng Nghymru); mae'r prif ddinasoedd yn cynnwys [[Llundain]], [[Birmingham]], [[Manceinion]], [[Sheffield]], [[Lerpwl]], [[Leeds]], [[Bryste]] a [[Newcastle upon Tyne]]. Ger [[Dover]] mae [[Twnnel Môr Udd]] yn cysylltu'r Deyrnas Unedig a [[Ffrainc]].
 
Mae Cymru yn wlad fynyddig gan fwyaf: yr [[Yr Wyddfa|Wyddfa]] yw'r copa uchaf, gydag uchder o 1,085 m uwch lefel y môr, ac mae'r mynyddoedd mawr eraill yn cynnwys [[Bannau Brycheiniog]], [[Pumlumon]], [[Y Berwyn]], [[Y Carneddau]] a'r [[Glyderau]] yn [[Eryri]], a [[Bryniau Clwyd]]. I'r gogledd mae [[Ynys Môn]]. Mae'r prif afonydd yn cynnwys [[afon Hafren]], [[afon Gwy]], [[afon Teifi]], [[afon Conwy]] ac [[afon Dyfrdwy]]. [[Caerdydd]] yw'r [[Prifddinas|Brifddinas]], yn ne Cymru; mae dinasoedd a threfi mawr eraill yn cynnwys [[Abertawe]], [[Castell-nedd]], [[Caerfyrddin]], [[Penfro]], [[Aberystwyth]], [[Dolgellau]], [[Caernarfon]], [[Bangor]], [[Caergybi]], [[Llandudno]], [[Bae Colwyn]], [[Y Rhyl]], a [[Wrecsam]].
 
Mae daearyddiaeth yr Alban yn gymysg, gydag iseldiroedd yn y de a'r dwyrain ac [[Ucheldiroedd yr Alban|ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin]], yn cynnwys [[Ben Nevis]], mynydd uchaf y DU (1343 m). Mae llawer o lynnoedd a breichiau Môr hir a dwfn yn yr Alban, a elwir yn ''[[firth]]au'', a ''[[loch]]au''. Fe gyfrir hefyd dyrfa o ynysoedd i orllewin a gogledd yr Alban, e.e. [[Ynysoedd Heledd]], [[Ynysoedd Erch]], ac [[Ynysoedd Shetland]]. [[Caeredin]], [[Glasgow]], ac [[Aberdeen]] yw'r prif ddinasoedd.
Llinell 109:
== Demograffaeth ==
{{Prif|Demograffaeth y Deyrnas Unedig}}
[[Saesneg]] yw'r brif iaith. Mae ieithoedd eraill yn cynnwys [[Cymraeg|y Gymraeg]], [[Gaeleg yr Alban]] a [[Sgoteg]]. Siaredir hefyd llawer o ieithoedd eraill gan fewnfudwyr o lefydd eraill yn [[y Gymanwlad]].
 
== Diwylliant ==
Llinell 117:
Mae ysgrifenwyr enwog o'r DU yn cynnwys y chwiorydd Bronte, [[Agatha Christie]], [[Charles Dickens]], Syr [[Arthur Conan Doyle]] a [[J. R. R. Tolkien]]. Mae beirdd pwysig yn cynnwys [[Robert Burns]], [[Thomas Hardy]], [[Alfred Tennyson]], [[Dylan Thomas]] a [[William Wordsworth]].
 
Mae'r cyfansoddwyr [[Edward Elgar]], [[Arthur Sullivan]], [[William Walton]], [[Ralph Vaughan Williams]], [[Benjamin Britten]] a [[Michael Tippett]] wedi gwneud cyfraniadau mawr i gerddoriaeth. Cyfansoddwyr sydd dal yn byw yw [[John Tavener]], [[Harrison Birtwistle]] a [[Oliver Knussen]].
 
Mae gan y Deyrnas Unedig amryw gerddorfeydd gan gynnwys [[Cerddorfa Symffoni'r BBC]], y [[Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol]], y [[Ffilharmonia]], [[Cerddorfa Symffoni Llundain]] a [[Cerddorfa Ffilharmonig Llundain|Cherddorfa Ffilharmonig Llundain]], ac fe astudiodd llawer o gerddorion enwog yng ngholegau cerddoriaeth y DU. Oherwydd ei lleoliad ac am resymau economaidd eraill, [[Llundain]] yw un o ddinasoedd pwysicaf am gerddoriaeth yn y byd - mae gan y ddinas sawl neuadd gyngerdd bwysig ac mae hi'n gartref i'r [[Tŷ Opera Brenhinol]], un o ddwy [[opera]] arweiniol y byd.
 
Mae'r Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu'r bandiau enwog [[Roc a rôl]] [[The Beatles]], y [[Rolling Stones]], [[Led Zeppelin]], [[The Who]], [[Pink Floyd]], [[Catatonia]], ac [[Oasis]].
 
Mae arlunwyr enwog o'r DU yn cynnwys pobl megis [[John Constable]], [[Joshua Reynolds]], [[William Blake]] a [[J.M.W. Turner]]. Yn yr 20fed ganrif, mae [[Francis Bacon]], [[David Hockney]], [[Bridget Riley]], [[Kyffin Williams]] a'r celfyddwyr pop [[Richard Hamilton]] a [[Peter Blake]] yn bwysig. Yn ein hamser ni mae arlunwyr eraill wedi bod yn enwog, yn enwedig [[Damien Hirst]] a [[Tracey Emin]].