Mae'r ynys yn 454 km o hyd a 100 km o led, gydag arwynebedd o 32,134 km2; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Hi yw'r ynys fwyaf ar arfordir gorllewinol [[Gogledd America]]. Mynydd Golden Hinde ydy mynydd uchaf yr ynys, 2,200m o uchder.<ref>[http://www.hellobc.com/vancouver-island/regional-geography.aspx Gwefan hellobc]</ref> GwahanirGwahenir yr ynys o'r tir mawr gan [[Culfor Georgia|Gulfor Georgia]], [[Culfor Queen Charlotte|Gulfor Queen Charlotte]], [[Culfor Johnstone|Gulfor Johnstone]] a [[Culfor Juan de Fuca|Chulfor Juan de Fuca]]. Mae sawl llyn ar yr ynys, gan gynnwys [[Llyn Nimpkish]], [[Llyn Cowichan]], [[Llyn Buttl]]e, [[Llyn Sproat,]], [[Llyn Great Central]] a [[Llyn Campbell]]. <ref>[http://www.thecanadianencyclopedia.ca/en/article/vancouver-island/ Gwefan thecanadianencyclopedia]</ref> Dinas fwyaf yr ynys yw [[Victoria (British Columbia)|Victoria]], sydd hefyd yn brifddinas British Columbia.
Mae 5 y cant o boblogaeth yr ynys tnyn bobl brodorol, a siaradirsiaredir ieithoedd [[Salishan]] a [[Wakashan]] o hyd.<ref>[http://www.thecanadianencyclopedia.ca/en/article/vancouver-island/ Gwefan thecanadianencyclopedia]</ref>
Daeth fforwyr o [[Sbaen]], [[Ffrainc]], [[Rwsia]], [[Prydai]]n a'r [[Unol Daleithiau]] i'r ynys yn ystod y deunawfedddeunawfed ganrif, gan gynnwys [[James Cook]] a [[George Vancouver]].<ref>[http://www.thecanadianencyclopedia.ca/en/article/vancouver-island/ Gwefan thecanadianencyclopedia]</ref>