Allen Clement Edwards: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Edo999 (sgwrs | cyfraniadau)
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B dolen y Deml Ganol
Llinell 1:
Roedd ''' Allen Clement (Clem) Edwards''' ([[7 Mehefin]], [[1869]]- [[23 Mehefin]], [[1938]].) yn gyfreithiwr, yn undebwr llafur, yn wleidydd[[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] Cymreig ac yn [[Aelod Seneddol]]. Roedd yn gefnogwr brwd o'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]], yn un o sylfaenwyr y blaid o blaid y rhyfel [[Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur]] ac yn gadeirydd y blaid yn y senedd.
 
==Bywyd Personolpersonol==
 
Ganwyd (Clem) Edwards ym 1869 yn [[Tref-y-clawdd|Nhrefyclawdd]], yn fab i George Benjamin Edwards, dilledydd ac ocsiwnïer a Sarah (née Tudge) ei wraig.<ref>A Forgotten Radnorian - Clement Edwards [http://tredelyn.blogspot.co.uk/2009/06/forgotten-radnorian-clement-edwards.html] adalwyd 20 Rhagfyr 2014</ref>
Llinell 8 ⟶ 9:
 
==Gyrfa==
Dechreuodd Edwards ei yrfa yn y gyfraith yn gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr yn Nhrefyclawdd.<ref>MR CLEMENT EDWARDS. A SHORT SKETCH OF HIS LIFE. LLGC Papurau Cymru arlein Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent 3 Awst 1900 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3604818/ART86] adalwyd 20 Rhagfyr 2014</ref> Ym 1899, galwyd ef i'r Bar gan [[y Deml Ganol]]. Roedd yn arbenigwr mewn achosion undebau llafur gan gynrychioli'r gweithwyr mewn nifer o achosion pwysig megis achos [[Rheilffordd Dyffryn Tâf]] ym 1901<ref>A TRADES UNIONS LIABILITY.Cambrian 20 Gorffennaf 1901 LLGC Papurau Cymru arlein [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3345940/ART105] adalwyd 20 Rhagfyr 2014</ref> a'r ymchwiliad i [[Tanchwa Senghennydd|Danchwa Senghennydd.]]<ref>CWEST SENGHENYDD Y Genedl Gymreig 13 Ion 1914 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/4024388/ART115] adalwyd 20 Rhag 2014</ref>
 
Yn ogystal â chynnig cyngor cyfreithiol i'r undebau roedd Edwards hefyd yn weithgar fel trefnydd undebau. Fe fu yn ysgrifennydd cynorthwyol Undeb Llafurwyr Cyffredinol y Dociau, Glanfeydd a Glannau’r Afon ac Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Undebau'r Dociau a Thrafnidiaeth. Fe fu'n cynrychioli'r undebau hyn yn yr ymchwiliad i suddo'r [[RMS Titanic]].
Llinell 14 ⟶ 15:
Yn ogystal â'i waith ym myd y gyfraith a'r undebau yr oedd hefyd yn newyddiadurwr blaenllaw gan weithio fel gohebydd materion Llafur ar The London Sun, The London Echo a'r Daily News.
 
==Gyrfa Wleidyddolwleidyddol==
Er ei fod yn Undebwr Llafur brwd doedd Edwards ddim yn gefnogol o'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]]. Cafodd ei ethol i gyngor Islington ym 1898. Safodd yn aflwyddiannus am sedd seneddol Tottenham fel Rhyddfrydwr yn etholiad 1895 ac ym [[Bwrdeistrefi Dinbych(etholaeth seneddol)|Mwrdeistrefi Dinbych]] ym1900. Safodd eto yn Ninbych ym 1906 gan gipio'r sedd. Methodd i gael ei ailethol yno yn Ionawr 1910 gan golli o ddim ond wyth bleidlais. Yn etholiad Tachwedd 1910 safodd i'r Rhyddfrydwyr yn etholaeth [[Dwyrain Morgannwg (etholaeth seneddol)|Dwyrain Morgannwg]] gan gipio'r sedd.<ref>Mr Clement Edwards Denbighshire Free Press — 17 Rhagfyr 1910 LLGC Papurau Cymru arlein [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3774109/ART74] adalwyd 20 Rhagfyr 2014</ref> Cafodd etholaeth Dwyrain Morgannwg ei ddileu ar gyfer etholiad 1918.