Lol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B rhai diweddariadau yn unig
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Er yn gylchgrawn "gwrth-sefydliad", tyfodd y cylchgrawn i fod yn sefydliad ynddo'i hun, ac yn ddarllen hanfodol i bob eisteddfodwr ar ei drec diwylliannol, blynyddol. Fe'i cyhoeddwyd fwy neu lai yn ddi-dor dan wahanol enwau a gwahanol olygyddion ac yn enw gwahanol gwmnïau, e.e. Gwasg Gwalia. Un o'r golygyddion mwyaf mentrus oedd [[Eirug Wyn]] a aeth i gryn helynt yn sgil stori a gyhoeddodd am berthynas cwmni teledu arbennig ag [[S4C]]. Yn nodweddiadol, fe wrthododd ymddiheuro am y stori, a bu'n rhaid iddo dalu'n ddrud am hynny.
 
Ymddangosodd rhai rhifynnau dan yr enw '''''Dim Lol''''', dan olygyddiaeth Catrin Dafydd ac wedyn Garmon Ceiro, ond wedi bwlch yn 2009, ailymddangosodd ''Lol'' dan ei enw gwreiddiol y flwyddyn wedyn ond gyda chyhoeddwyr newydd, Cwmni Drwg Cyfyngedig. Mae wedi ymddangos yn flynyddol oddiar hynny a dathlodd y cyclchgrawn ei benblwydd yn hanner cant oed yn 2015, gan gyhoeddi'r rhifyn mwyaf swmpus erioed. Ym mis Tachwedd, cyhoeddwyd ''Llyfr Mawr Lol'' (gol. Arwel Vittle) sy'n cynnwys detholion a sylwebaeth ar yr holl rifynnau.
 
Mae ''Lol'', o dan ei wahanol enwau, yn parhau i werthu tua 4,000 copi y flwyddyn, ac yn un o'r ychydig gylchgronau Cymraeg a gaiff ei gyhoeddi heb unrhyw grant cyhoeddus.