Thomas Bayes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Newydd |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 08:28, 13 Tachwedd 2015
Athronydd ac ystadegwr Seisnig o Swydd Henffordd oedd y Parch. Thomas Bayes (c. 1701 – 7 Ebrill 1761)[2][3]. Mae'n nodedig am theori a enwyd ar ei ôl, ond na chyhoeddwyd tan wedi ei farwolaeth. Ei gyfaill, y dyngarwr byd enwog Richard Price a sylwodd ar y wybodaeth newydd hon, wrth iddo fynd drwy ei bapurau wedi'r angladd.[4]
Thomas Bayes | |
---|---|
Ganwyd | c. 1701 Llundain, Lloegr |
Bu farw | 7 Ebrill 1761 Tunbridge Wells, Kent, Lloegr | (59 oed)
Bu fyw yn | Tunbridge Wells, Kent, Lloegr |
Cenedligrwydd | Sais |
Enwog am | Theorem Bayes |
Llofnod |
Cynigiodd Thomas Bayes ateb i broblem 'gwrthdro tebygolrwydd' (inverse probability) mewn ysgrif fechan a luniodd "An Essay towards solving a Problem in the Doctrine of Chances" a ddarllenwyd i'r Gymdeithas Frenhinol yn 1763, wedi ei farwolaeth. Richard Price. wthiodd y theori hwn gan ei ddatblygu a'i gyhoeddi y flwyddyn dilynol mewn ysgrif o'r enw Philosophical Transactions of the Royal Society of London. Roedd y theori'n cynnig dadl dros raniad unffurf o'r paramedr binomaidd yn hytrach na'i gynosod mewn modd cyffredinol.[5]
Cyhoeddodd ddau lyfr yn ystod ei oes, un ohonynt am fathemateg: An Introduction to the Doctrine of Fluxions, and a Defence of the Mathematicians Against the Objections of the Author of The Analyst (heb ei enw, 1736), pan ddadleuodd dros sylfaen rhesymegol theori Isaac Newton ar galcwlws ac yn erbyn dadleuon negyddol George Berkeley, awdur The Analyst.
Cyfeiriadau
- ↑ Terence O'Donnell, History of Life Insurance in Its Formative Years (Chicago: American Conservation Co:, 1936), t. 335 (caption "Rev. T. Bayes: Improver of the Columnar Method developed by Barrett.")
- ↑ 2.0 2.1 Bayes's portrait The IMS Bulletin, Cyfrol. 17 (1988), Rhif 3, tt. 276–278.
- ↑ Belhouse, D.R. The Reverend Thomas Bayes FRS: a Biography to Celebrate the Tercentenary of his Birth;. Adalwyd Tachwedd 2015
- ↑ McGrayne, Sharon Bertsch. (2011). The Theory That Would Not Die p. 10., tud. 10, ar Google Books
- ↑ Edwards, A. W. G. "Commentary rhon the Arguments of Thomas Bayes," Scandinavian Journal of Statistics, Cyfrol 5, Rhif 2 (1978), tt. 116–118; adalwyd 6 Awst 2011