Agor y brif ddewislen

Newidiadau

No change in size ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
Roedd '''Thomas Williams, Llanidan''' ([[13 Mai]] [[1737]] - [[30 Tachwedd]] [[1802]]) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y [[18fed ganrif]].
 
Roedd Thomas Williams yn fab oi Owen Williams, Cefn Coch, [[Llansadwrn]], [[Ynys Môn]]. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith [[copr]] [[Mynydd Parys]] ger [[Amlwch]]. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778.
 
O gwmpas [[1785]] daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner y diwydiant copr yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", ond yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes.
37,236

golygiad