Merthyr Tudful: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 28:
Mae'r dystiolaeth ddynol yn mynd nôl i'r [[Oes Efydd]], a cheir yn yr ardal [[crug|grudiau]], [[carnedd]]au a [[cylch carreg|chylchoedd cerrig]], er fod llawer o'r olion wedi'u difethau gan yr holl gloddio a chwalu'r gwaith haearn.
 
Cododd y [[Rhufeiniaid]] [[Caerau Rhufeinig Cymru|gaer]] yn yr ardal, ym [[Penydarren|Mhenydarren]] a chododd y [[Normaniaid]] gastell ym [[Castell Morlais|Morlais]]. Roedd y dref yng nghantref [[Senghennydd]] yn [[Teyrnas Morgannwg|Nheyrnas Morgannwg]]. Darostyngwyd y dref gan [[Gilbert_de_Clare|Gilbert de Clare]] yn ail hanner y [[13eg ganrif]].<ref>Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008</ref>
 
Adeiladodd yr [[Anghydffurfiaeth|Anghydffurfwyr]] gapel yng Nghwm-y-glo yn [[1690]], a chododd yr [[Undodiaeth|Undodiaid]] un yng [[Nghefn Coed|Cefn Coed y Cymer]] yn [[1747]]. Pan ddaeth y mewnlifiad o bobl yn y [[19eg ganrif]], ymunodd y rhan fwyaf gyda'r anghydffurfwyr. Y meistri tir a'r diwydianwyr cyfoethog oedd yn perthyn i [[Eglwys Loegr]], fel mewn llawer o lefydd yng Nghymru.