Diwydiant copr Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cys all
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
Mae hanes '''diwydiant copr Cymru''' yn mynd yn ôl i [[Oes yr Efydd]]. [[Copr]] yw'r prif fetel mewn [[efydd]], gyda ychydig o [[Tun|dun]] wedi ei ychwanegu i'w galedu. Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod yma wedi eu darganfod yng [[Afon Ystwyth|Nghwmystwyth]], [[Mynydd Parys]] ar [[Ynys Môn]] ac yn arbennig ar [[Pen y Gogarth|Ben y Gogarth]] ger [[Llandudno]], lle roedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 medr. Dechreuwyd mwyngloddio [[copr]] ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu wedi'u cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd [[craig igneaidd|cerrig igneaidd]] yn ogystal ag esgyrn [[buwch|gwartheg]], [[dafad|defaid]], [[gafr|geifr]] ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl i gopr gael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir [[Ewrop]] hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.
 
Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr, er enghraifft ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth.
Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa fawr ym Mynydd Parys yn [[1768]], gan ddarganfuwyd gwythïen fawr o gopr yma. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn [[1778]] roedd y cwmni yn cael ei redeg gan [[Thomas Williams, Llanidan]], a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod.
 
Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y copr yn cael ei weithio oddi ar yr wyneb, ond yn ddiweddarach o siafftiau. Roedd y darnau o graig yn cynnwys y copr wedyn yn cael eu malu'n ddarnau llai â morthwyl gan ferched, y "Copr Ladis", cyn cael ei yrru o borthladd Amlwch i borthladd [[Abertawe]] i'w smeltio, neu weithiau i [[Swydd Gaerhirfryn]]. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl [[Merthyr Tudful]]. Estynwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.
 
Datblygodd nifer o wethfeydd toddi copr yn ardal Abertawe, [[Castell-nedd]] a [[Llanelli]], yn defnyddio'r glo lleol i doddi mwynau o [[Cernyw|Gernyw]] a Mynydd Parys. Sefydlwyd nifer o'r cwmnïau gyda chyfalaf o Gernyw, yn cynnwys y mwyaf, ''Vivian & Sons''. Am gyfnod cafodd Abertawe yr enw ''Copperopolis'', ac roedd yn allforio copr i bob rhan o'r byd. Dirywiodd y diwydiant yma yn ne Cymru yn chwarter olaf y [[19eg ganrif]], pan adeiladwyd gweithfeydd yn nes at y mwyngloddiau copr.
 
Roedd hefyd nifer o fwyngloddiau copr yn [[Eryri]], er enghraifft [[Drws-y-Coed]] a Sygun, ger [[Beddgelert]], ac yn [[Dyffryn Conwy|Nyffryn Conwy]]. Roedd mwyngloddiau pur gynhyrchiol ym [[Meirionnydd]] hefyd, e.e. ger [[Llanfachreth]]. Un o'r mwyngloddiau yma oedd Glasdir, a weithiwyd rhwng 1852 a 1914, lle dyfeisiodd y perchennog Alexander Elmore ddull o dynnu copr o'r mwyn trwy ddefnyddio arnofiad olew.