Atmosffer y Ddaear: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
copio
Llinell 19:
===Ecsosffer===
Mae'r ecsosffer yn ymdoddi i'r cyfrwng rhyngblanedol ac mae'n dechrau tua 600 km uwch wyneb y ddaear. Prif gynnwys yr aer tenau yw swm bychan o [[ocsigen]] atomig i fyny at 600 km a chyfran gyfartal o [[hydrogen]] ac [[heliwm]]. Mae yna fwy o [[hydrogen]] nag o [[heliwm]] y tu hwnt i 2400 km.
 
 
==Carbon deuocsid yn atmosffer y Ddaear==
{{Prif|Carbon deuocsid yn atmosffer y Ddaear}}
Mae Carbon deuocsid ({{CO2}}) yn nwy hynod bwysig yn [[atmosffer]] [[y Ddaear]]. Mae'n 0.04% (400 rhan allan o filiwn) o'r atmosffer.<ref>{{cite news|url=http://www.theguardian.com/environment/2015/may/06/global-carbon-dioxide-levels-break-400ppm-milestone |title=Global carbon dioxide levels break 400ppm milestone |work=The Guardian |date=6 Mai 2015 |accessdate=7 May 2015}}</ref><ref>{{cite news|url=http://www.esrl.noaa.gov/gmd/ccgg/trends/global.html |title=ESRL Global Monitoring Division - Global Greenhouse Gas Reference Network |work=NOAA |date=6 Mai 2015 |accessdate=7 May 2015}}</ref> Er mai cymharol isel yw'r cryodiad ohono yn yr atmosffer, fe all {{CO2}} weithredu fel [[Effaith tŷ gwydr|nwy tŷ gwydr]] ac mae iddo rôl bwysig iawn yn y broses o reoli tymheredd wyneb y Ddaear.
 
Mae {{CO2}} yn amsugno ac yn allyru [[ymbelydredd]] [[isgoch]] ar [[tonfedd|donfedd]] o 4.26 [[µm]] (modd dirgrynol) a 14.99&nbsp;µm (modd dirgrynol a phlygiadol). Casglwyd gwybodaeth am grynodiadau a lefelau {{CO2}} ers blynyddoedd, a gwelir nad yw'n sefydlog. Mae'r data'n dangos ei fod wedi newid yn sylweddol gyda'r amrediad at ei uchaf tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl (7,000 rha mewn miliwn) yn ystod y [[cyfnod (daeareg)|cyfnod]] [[Cambriaidd]] ac ar ei isaf (180 rhan mewn miliwn) yn ystod y [[Rhewlifiad cwaternaidd]], sef o 2.58 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol ([[CP]]) hyd at y presennol.
 
==Gweler hefyd==