Thomas Williams, Llanidan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 3:
Roedd Thomas Williams yn fab i Owen Williams, Cefn Coch, [[Llansadwrn]], [[Ynys Môn]]. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith [[copr]] [[Mynydd Parys]] ger [[Amlwch]]. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778.
 
O gwmpas [[1785]] daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Rhwng 1787 a 1792 bu yn rheoli'r 'Cornish Metel Company', oedd yn golygu ei fod yn rheoli bron y cyfan o ddiwydiant copr Prydain. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner y [[Diwydiant copr Cymru|diwydiant copr]] y byd yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", ond yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes.
 
Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny.