Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y plygain"

Ychwanegwyd 79 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
manion Llanfair DC
B
(manion Llanfair DC)
Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair [[Lladin]] ''pullicantiō''<ref>http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain</ref>, sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y [[Llydaweg]] fel ''pellgent''. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am [[Sion Corn]] ydy ''Tad-kozh ar pellgent'' ("Tad-cu y plygain").
 
Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud [[cyflaith]] i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddom i hyn ddigwydd ym [[Marford]], [[Sir y Fflint]] er enghraifft. Yn [[Llanfair Dyffryn Clwyd]], yn 1774, gwyddom i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu cyn mynd i'r plygain.
 
Mewn mannau eraill, cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref: [[Dinbych-y-pysgod]], [[Talacharn]] a [[Llanfyllin]]. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith.
 
==Cynnau Cannwyll==
 
Hyd at y 19eg ganrif, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn [[Dolgellau|Nolgellau]], er enghraifft, gwysgwyd y canhwyllau â chelyn ac y Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân.
 
MewnYn mannau[[Llanfair eraillDyffryn Clwyd]] ger [[Rhuthun]] yn 1774, cafwydgwyddom i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu wrth gerdded i'r plygain. Cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref: neu'r pentref, hefyd, yn [[Dinbych-y-pysgod|Ninbych-y-pysgod]], [[Talacharn]] a [[Llanfyllin]]. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith yn aml.
 
==Y Gwasanaeth ei hun==
* [[Mallwyd]]
* [[Llanerfyl]]
* [[Llanfair Dyffryn Clwyd]]
* [[Llanymawddwy]]
* [[Cefnyblodwel]] (yn Lloegr)
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
<references/>
 
{{DEFAULTSORT:Plygain, Y}}