Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y plygain"

Ychwanegwyd 1,210 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
2
(manion Llanfair DC)
(2)
[[Delwedd:Lucia in Vienna 4.jpg|de|bawd|300px]]
Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r '''plygain'''. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu [[carol plygain|carolau'r plygain]]. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/277/ Gwefan Amgueddfa Cymru;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref>
 
Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair [[Lladin]] ''pullicantiō''<ref>http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain</ref>, sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y [[Llydaweg]] fel ''pellgent''. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am [[Sion Corn]] ydy ''Tad-kozh ar pellgent'' ("Tad-cu y plygain").
 
Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud [[cyflaith]] i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddom i hyn ddigwydd ym [[Marford]], [[Sir y Fflint]] er enghraifft. Roedd yr oriau yma cyn y plygain, felly'n rhai cymdeithasol iawn. Ceir cofnod mai gwneud cyflaith a threulio'r noson yn addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd oedd y traddodiad ym [[Marford]], [[Sir Fflint]], yn y [[1830au]]. Ac yn nyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai pobl [[Dyffryn Clwyd]] eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r [[telyn|delyn]] tan y plygain.
 
==Cynnau Cannwyll==
 
Hyd at y 19eg ganrif, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn [[Dolgellau|Nolgellau]], er enghraifft, gwysgwyd y canhwyllau â chelyn ac y Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân. Arferid addurno'r canhwyllau hyn, ac yn [[Llanfyllin]], goleuwyd yr adeilad gan gannoedd o ganhwyllau, wedi eu 1leoli fodfeddi er wahân. Yn Nolgellau, gwisgid y canhwyllau â chelyn. Ym [[Maentwrog]], [[Sir Feirionnydd]], yr oedd canhwyllau hefyd ''"wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad."'' <ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/277/ Gwefan Amgueddfa Cymru;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref>
 
Yn [[Llanfair Dyffryn Clwyd]] ger [[Rhuthun]] yn 1774, gwyddom i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu wrth gerdded i'r plygain. Cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref neu'r pentref, hefyd, yn [[Dinbych-y-pysgod|Ninbych-y-pysgod]], [[Talacharn]] a [[Llanfyllin]]. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith yn aml a'r llanciau'n chythu cyrn.
 
Yn ôl Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn o oleuo canhwyllau ar y Nadolig fel sumbol o ddyfodiad Goleuni'r Byd.
 
==Y Gwasanaeth ei hun==