Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y plygain"

Ychwanegwyd 652 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
5
(3)
(5)
[[Delwedd:Lucia in Vienna 4.jpg|de|bawd|300px]]
Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r '''plygain'''. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu [[carol plygain|carolau'r plygain]]. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/277/ Gwefan Amgueddfa Cymru;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref> Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y [[16eg ganrif]] gydag elfennau llawer hŷn na hynny.
 
Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair [[Lladin]] ''pullicantiō''<ref>http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain</ref>, sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y [[Llydaweg]] fel ''pellgent''. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am [[Sion Corn]] ydy ''Tad-kozh ar pellgent'' ("Tad-cu y plygain").
''Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.''
 
Ym Maentwrog roedd hi'n arferiad i'r rheithor bregethu am gyfnod byr ac yn Llanfair Dyffryn Clwyd, roedd y Cymun Bendigaid yn cael ei weinyddu.
 
Ychydig iawn o siarad sydd mewn gwasanaeth y plygain, sy'n papa oddeutu dwyawr. Fel arfer ceir oddeutu deudded o bartion yn cymryd eu tro i godi o'r gynulledifa a cherdded i'r sedd fawr, heb neu yn eu galw ymlaen, heb gyflwyniad o gwbwl i'r caneuon - ac yn debyg yn hyn o beth i wasanaeth y [[Crynnwyr]]. Wedi ysbaid yn y canol, lle gwneir y casgliadmewn rhai llefyd, ceir ail ran, a deai'r partion ymlaen yn yr un drefn i ganu eu hail ddewis a phob cân yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol a'r cwbl yn Gymraeg.
 
== Canu plygain heddiw ==