Diwydiant copr Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 6:
Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y copr yn cael ei weithio oddi ar yr wyneb, ond yn ddiweddarach o siafftiau. Roedd y darnau o graig yn cynnwys y copr wedyn yn cael eu malu'n ddarnau llai â morthwyl gan ferched, y "Copr Ladis", cyn cael ei yrru o borthladd Amlwch i borthladd [[Abertawe]] i'w smeltio, neu weithiau i [[Swydd Gaerhirfryn]]. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl [[Merthyr Tudful]]. Estynwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.
 
Datblygodd nifer o wethfeydd toddi copr yn ardal Abertawe, [[Castell-nedd]] a [[Llanelli]], yn defnyddio'r glo lleol i doddi mwynau o [[Cernyw|Gernyw]] a Mynydd Parys. Sefydlwyd nifer o'r cwmnïau gyda chyfalaf o Gernyw, yn cynnwys y mwyaf, ''Vivian & Sons''. Am gyfnod cafodd Abertawe yr enw ''Copperopolis'', ac roedd yn allforio copr i bob rhan o'r byd. O 1843 ymlaen, dechreuwyd mewnforio mwy o fwyn tramor i Abertawe. Daliodd y diwydiant i dyfu, gan gyrraedd ei anterth rhwng [[1860]] a [[1875]]. Dirywiodd y diwydiant yma yn ne Cymru yn chwarter olaf y [[19eg ganrif]], pan adeiladwyd gweithfeydd yn nes at y mwyngloddiau copr.
 
Roedd hefyd nifer o fwyngloddiau copr yn [[Eryri]], er enghraifft [[Drws-y-Coed]] a Sygun, ger [[Beddgelert]], ac yn [[Dyffryn Conwy|Nyffryn Conwy]]. Roedd mwyngloddiau pur gynhyrchiol ym [[Meirionnydd]] hefyd, e.e. ger [[Llanfachreth]]. Un o'r mwyngloddiau yma oedd Glasdir, a weithiwyd rhwng 1852 a 1914, lle dyfeisiodd y perchennog Alexander Elmore ddull o dynnu copr o'r mwyn trwy ddefnyddio arnofiad olew.