Utica, Efrog Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B tynnu nodyn eginyn
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Robert Everett
Llinell 5:
 
==Cysylltiadau Cymreig==
Datblygodd un o gymunedau mwyaf yr [[Americanwyr Cymreig]], ac yn sicr un o'r rhai mwyaf dylanwadol, yn Utica. YmsefydlasaiSefydlodd rhai [[Cymry]] yn yr ardal mor gynnar â diwedd y [[18fed ganrif]]. Ar ôl dioddef cynaeafau gwael yn 1789 a 1802 ac yn y gobaith ennill rhagor o dir, daeth mewnfudwyr Cymreig eraill i ychwanegu at y pum teulu gwreiddiol gan ymgartrefu yn nhreflannau [[Stueben]], Utica a [[Remsen]]. Y Cymry oedd y cyntaf i gyflwyno'r diwydiant [[llaeth]] i'r ardal, gan dynnu ar eu profiad yn y famwlad, a daeth [[menyn]] Cymreig yn [[nwydd]] gwerthfawr ym marchnadau Efrog Newydd. Sefydlwyd argraffweisg yn Utica ac roedd wedi'i sefydlu fel prif ganolfan diwylliannol y Cymry yn America erbyn 1830. Roedd yna 19 o gyhoeddwyr gwahanol a argraffodd tua 240 o lyfrau [[Cymraeg]], 4 cylchgrawn Ymneilltuol a'r [[papur newydd]] dylanwadol ''[[Y Drych]]''.
 
Mae'r Cymry a gysylltir ag Utica yn cynnwys:
* [[Erasmus Jones]] (1817 - 1909), brodor o blwyf [[Llanddeiniolen]]
* [[Samuel Roberts]] (1800 - 1805), neu "S. R." (Samuel Roberts, [[Llanbrynmair]])
* [[Robert Everett]] (1791 - 1875), cyhoeddwr a hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg, ac a ymgyrchodd yn erbyn [[caethwasanaeth]] pobl dduon.
 
==Dolenni allanol==