Ysbaddaden Bencawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 6 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q948501 (translate me)
gwaywffon; dol
Llinell 1:
[[Cawr]] chwedlonol yw '''Ysbaddaden Bencawr''' ("Ysbaddaden Pennaeth y Cewri"); hefyd '''Ysbyddaden Bencawr.''' Mae'n un o brif gymeriadau'r chwedl [[Cymraeg Canol|Gymraeg Canol]] ''[[Culhwch ac Olwen]]''. Merch Ysbaddaden yw [[Olwen]]. Mae [[Culhwch]], arwr y chwedl, wedi ei [[tynged|dynghedu]] gan ei lysfam i garu ac i ennill llaw Olwen yn unig. Ond os bydd Culhwch yn priodi Olwen bydd Ysbaddaden yn marw. Mae pob arwr arall a geisiai Olwen wedi methu neu farw yn yr ymgais.
 
Mae'r cawr yn gwrthod cais Culhwch am law Olwen deirgwaith gan daflu [[gwaywffon]] wenwynig ato bob tro. Y trydydd tro mae Culhwch yn dal y waywffon a'i bwrw yn ôl gan daro Ysbaddaden yn ei lygad. Mae Ysbaddaden yn ildio i gais Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawnu deugain tasg amhosibl (yr [[Anoethau]]) cyn iddo gael priodi Olwen. Ar ôl cyfres o anturiaethau gyda chymorth arwyr llys [[Arthur]] mae Culhwch yn cyflawni'r Anoethau. Mae [[Goreu fab Custennin]], a guddiwyd mewn cist rhag iddo gael ei ladd gan Ysbaddaden fel ei frodyr, yn torri pen y cawr ac mae Culhwch o'r diwedd yn priodi Olwen.
 
==Llyfryddiaeth==