Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwaywffon"

Ychwanegwyd 1,987 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
(cyfs)
(ehangu)
[[Delwedd:Picelli LlGC.PNG|bawd|Llun picellwyr allan o Peniarth 482D a wnaed yn niwedd y [[15fed ganrif]]. Cedwir y llawysgrif wreiddiol yn y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]].]]
Arf hirfain, blaenllym a ddefnyddir i drywanu person mewn brwydr yw '''gwaywffon''' (hefyd: '''gwayw''' neu '''bicell'''). Mae iddi ddwy ran: y [[llafn]] garreg neu [[metal|fetal]] a'r ffon hir a luniwyd o bren yn gyntaf, ac yna o fetal. Gall y waywffon fod yn un i'w thaflu drwy'r awyr, neu'n fath trymach i'w chario yn y dwylo. Defnyddid [[fflint]] yn llaf i'r hen waywffyn, ac mae'r hynaf yn dyddio i o leiaf 400,000 cyn y presennol ([[CP]]).<ref>''Lower Palaeolithic hunting spears from Germany. Hartmut Thieme. Letters to Nature. Nature'' 385, 807 – 810 (27 Chwefror 1997); {{doi|10.1038/385807a0}} [http://www.nature.com/nature/journal/v385/n6619/abs/385807a0.html]</ref> Ystyrir y [[bidog]] yn ddatblygiad naturiol i'r waywffon, ac sy'n parhau i gael ei ddefnyddio heddiw gan filwyr ar flaen gwn.
 
:[[Llydaweg|Hen Lydaweg]]: '''goiuou'''
:[[Hen Wyddeleg]]: '''gáe'''
:[[Hen Gymraeg]]: '''guoïu''' (gwoyw)
:[[Galeg]] ( iaith y Celtiaid tebyg i'r [[Brythoneg|Frythoneg]]): '''gaeso'''
 
==Mathau gwahanol==
===Gwaywffon dafl===
Awgrymodd Ifor Williams wrth drafod llinell o Ganu Llywarch Hen, fod "pâr" yn waywffon dafl, sef gwaywffon ysgafn i'w thaflu; mae'n cyfeirio at y disgrifiad o [[Culhwch ac Olwen|Gulhwch]] ''yn cludo deu par aryanhyeit lliueit yn y law'', ac at yr arfau y mae [[Lleu Llaw Gyffes|Lleu a Gronwy]] yn eu taflu at ei gilydd ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]].<ref>[http://cadair.aber.ac.uk/dspace/bitstream/handle/2160/4646/Pennod3.pdf?sequence=3 ''Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion''; papur gan Jennifer Penelope Day; 2010.] Adalwyd 07 Rhagfyr 2015</ref>
 
==='Glaif' y marchog===
Yn ôl Historia Gruffud vab Kenan, gelwid gwaywffon lonydd, a gludwyd gan farchog yn "glaif", sonir yno mai'r 'glaif' oedd arf y marchogfilwr o Fôn a ymosododd ar [[Gruffudd ap Cynan|Ruffudd ap Cynan]] ym [[Brwydr Bron yr Erw|mrwydr Bron yr Erw]].
Ceir dwy linell mewn englyn strae o Lyfr Coch Hergest:
:''I'm naf a garaf, a fedr gwyriaw—glaif''
::''Ac a saif heb syrthiaw.''
Yma, mae'r gair 'gwyro' yn disgrifio'r glaif (''lance'' yn Saesneg) yn plygu neu'n gostwng ei waywffon ar y funud olaf wrth ruthro ar ei farch tuag at ei elyn.
 
Ac yn 'Rhamant Otuel' dywedir: ''gostwg y waew a'i ossot yghyueir yr iarll a chymell y uarch''.
 
Mew cerdd fawl i [[Rhodri ab Owain Gwynedd|Rodri ab Owain Gwynedd]] (Prydydd y Moch) dywedir:
:''Deucan wayw terrwyn torres—bâr dygrwn''
:''Pan ysgwn esgores''
sy'n cyfeirio at yr arwr yn torri gwyawffyn ei elynion. Yn amlach na pheidio gwawffon glaif y marchog fyddai'n torri (''torres''), gan fod y grym yn y trawiad gryn dipyn mwy na thrawiad gwŷr traed.
 
==Gweler hefyd==
*[[Tryfer]]: gwaywffon arbennig i ddal [[pysgod]]
 
 
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
*''Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion''; papur gan Jennifer Penelope Day
 
[[Categori:Arfau]]