Allen Ginsberg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 13:

Bardd [[Unol Daleithiau|Americanaidd]] oedd '''Irwin Allen Ginsberg''' (yngenir/ˈɡɪnzbərɡ/; 3 Mehefin, 1926 – 5 Ebrill, 1997). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerdd '[[Howl]]' (1956), a ddathlai ei ffrindiau a oedd yn aelodau o [[Cenhedlaeth y Bitniciaid|Genhedlaeth y Bitniciaid]] ac yn beirniadu'r hyn yr ystyriai fel grymoedd dinistriol materoliaeth a chydymffurfiaeth yn yr Unol Daleithiau.

Fel llawer o'r ysgrifenwyr 'Beat' eraill, parhaodd ei ddylanwad trwy gyfnod gwrth-ddiwylliant y 60au a 70au gan ddod yn arwr i lawer o ysgrifenwyr, beirdd a cherddorion heddiw.

==Bywyd Cynnar==
Ganwyd Allen Ginsberg i deulu [[Iddewiaeth|Iddewig]] yn Newark, [[New Jersey]], ac wedyn bu'n fyw fel plentyn yn nhref Paterson gerllaw. Yn ei arddegau ysgrifennodd llythyron i'r ''New York Times'' am faterion gwleidyddol a hawliau gweithwyr. Tra yn yr ysgol uwchradd dechreuodd darllen llyfrau [[Walt Whitman]].

Yn ôl y ''The Poetry Foundation'', treuliodd Ginseberg rhai misoedd mewn ysbyty meddwl wedi iddo bledio'n wallgof mewn achos llys ar gyhuddiad o gael eiddo wedi'i dwyn.

==Gyrfa==
Yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Colombia cyflwynodd Ginsberg gan ei gyd-fyfyriwr Lucien Carr i nifer o ysgrifenwyr ifanc arbrofol yn cynnwys [[Jack Kerouac]] a [[William S. Burroughs]]. Fel rhan o'r grŵp yma fe ddaeth Ginsberg i fod yn un o sylfaenwyr y mudiad llenyddol avant garde ''Beat.''
Datblygodd y beirdd ac ysgrifenwyr ''Beat'' arddull newydd o ysgrifennu gan dorri'n rhydd o gyfyngiadau a chonfensiynau bywyd Americanaidd y cyfnod.

Mewn fflat yn [[Harlem]] (ardal Affro-Americaniadd Efrog Newydd) dywedodd Ginsberg wrtho gael ''Gweledigaeth Blake'' – gan fynnu iddo glywed llais Duw wrth ddarllen gwaith y bardd [[William Blake]]. Wedyn eglurodd ni fu'r weledigaeth yn ganlyniad i ddefnyddio cyffuriau ond roedd am ail-greu'r teimladau trwy arbrofi gyda chyffuriau.

Symudodd Ginsberg i [[San Francisco]] ac ym 1954 cyfarfu â Peter Orlovsky (1933–2010), a fu'n bartner iddo hyd ddiwedd ei fywyd.

[[Delwedd:Howlandotherpoems.jpeg|ewin_bawd|Argraffiad cyntaf y gyfrol yr ymddangosodd 'Howl' ynddi yn 1956]]
Ym 1956 cyhoeddwyd ei waith enwocaf y gerdd ''Howl''. Cafodd y llyfrau eu cipio gan yr heddlu ym 1957 a bu achos llys i wahardd y gwaith am iddo gynnwys sôn am gariad [[hoyw]] ar adeg pab fu'n anghyfreithlon. Bu'r cyhoeddusrwydd i ''Howl'' yn gymorth mawr i ennill diddordeb i'r gwaith a chynyddu gwerthiant.

''“Gwelais feddyliau gorau fy nghenhedlaeth wedi’u dinistrio gan wallgofrwydd
newynog noeth lloerig
yn llusgo eu hunain trwy strydoedd duon y wawr yn chwilio am ffics blin
hipsters pen-angelaidd ar dân am y cysylltiad nefol hynafol i’r dynamo serennog ym mheirianwaith y nos..."''

...Cyfieithiad llinellau agoriadol ''Howl''

[[File:Carl Solomon, Patti Smith, Allen Ginsberg and William S. Burroughs.jpg|thumb|Carl Solomon, Patti Smith, Allen Ginsberg a William S. Burroughs]]

Ym 1957 symudodd i [[Paris|Baris]] i fyw mewn fflat rhad uwchben bar yn 9 rue Gît-le-Coeur. Ymunodd Willaim Burroughs ac ysgrifenwyr ''Beat'' eraill ac fe enillodd y fflatiau'r enw 'Beat Hotel'. Yma ysgrifennodd Ginseberg ei gerdd epig ''Kaddish''. Yn ddiweddarach ymwelodd â William Burroughs yn [[Tangiers]], [[Moroco]] a gyda Jack Kerouac gynorthwyodd Burroughs gyhoeddi ei waith enwog ''The Naked Lunch''.

Yn ystod 1962-3 teithiodd Ginsberg ac Orlovsky ar draws India gan fyw yn [[Kolkata]] (Calcutta) a'r ddinas sanctaidd Benares er awdurdodau India ceisio eu taflu o'r wlad.

Daeth Ginsburg yn [[Bwdhaeth|Fwdhydd]] ac astudiodd crefyddau yn frwd. Er yr holl sylw a llwyddiant bu'n byw mewn fflatiau digon syml yn East Village, Efrog Newydd ac yn prynu ei ddillad o siopau ail-law.

Bu'n rhan o ddegawdau o brotestiadau gwleidyddol di-drais yn erbyn rhyfel [[Fietnam]] a nifer fawr o achosion eraill. Mae ei gerdd "September on Jessore Road," yn tynnu sylw i ddioddefaint pobl ffoaduriad [[Bangladesh|Bangladeshi]]. Yn ôl y beirniad llenyddol Helen Vendler mae hyn yn nodweddiadol o ymroddiad Ginsberg i wrthwynebu ''gwleidyddiaeth imperialaidd a gormesi'r difreintiedig''.

Er i'w waith cael ei wahardd a bu'n ran o'r is-ddiwylliant a heriodd syniadau poblogaidd y cyfnod erbyn diwedd ei oes bu Allen Ginsberg un o lenorion enwocaf yr iaith Saesneg. Roedd newyddion ei farwolaeth ym 1997 yn newyddion ymhlith prif penawdau yn newyddion a thalwyd teyrngedau llu iddo.

[[File:1967 Mantra-Rock Dance Avalon poster.jpg|thumb|right|upright|Dylanwad crefydd ddwyreiniol ar boster noson Allen Ginsberg gyda phrif grwpiau seicedelig, 1967..]]

==Llyfryddiaeth==
* ''Howl and Other Poems'' (1956)
* ''Kaddish and Other Poems'' (1961)
* ''Empty Mirror: Early Poems'' (1961)
* ''Reality Sandwiches'' (1963)
* ''The Yage Letters'' (1963) – gyda [[William S. Burroughs]]
* ''Planet News'' (1968)
* ''First Blues: Rags, Ballads & Harmonium Songs 1971 - 1974'' (1975),
* ''The Gates of Wrath: Rhymed Poems'' 1948–1951 (1972)
* ''The Fall of America: Poems of These States'' (1973)
* ''Iron Horse'' (1972)
* ''Sad Dust Glories: poems during work summer in woods'' (1975)
* ''Mind Breaths'' (1978)
* ''Plutonian Ode: Poems 1977–1980'' (1981)
* ''Collected Poems 1947–1980 (1984)''
* ''White Shroud Poems: 1980–1985'' (1986)
* ''Cosmopolitan Greetings Poems: 1986–1993'' (1994)
* ''Howl Annotated'' (1995)
* ''Illuminated Poems'' (1996)
* ''Selected Poems: 1947–1995'' (1996)
* ''Death and Fame: Poems 1993–1997'' (1999)
* ''Deliberate Prose'' 1952–1995 (2000)
* ''Howl & Other Poems 50th Anniversary Edition'' (2006)
* ''The Book of Martyrdom and Artifice: First Journals and Poems 1937-1952''
* ''The Selected Letters of Allen Ginsberg and Gary Snyder''
* ''I Greet You At The Beginning of a Great Career: The Selected Correspondence of Lawrence Ferlinghetti and Allen Ginsberg'', 1955-1997

{{Rheoli awdurdod}}