Allen Ginsberg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 46:
Yn ystod 1962-3 teithiodd Ginsberg ac Orlovsky ar draws India gan fyw yn [[Kolkata]] (Calcutta) a'r ddinas sanctaidd Benares er awdurdodau India ceisio eu taflu o'r wlad.
 
Daeth Ginsburg yn [[Bwdhaeth|Fwdhydd]] ac astudiodd crefyddau dwyreiniol yn frwd. Er yr holl sylw a llwyddiant bu'n byw mewn fflatiau digon syml yn East Village, Efrog Newydd ac yn prynu ei ddillad o siopau ail-law.<ref>Ginsberg, Allen (April 3, 2015). "The Vomit of a Mad Tyger". Lion's Roar. Retrieved April 3, 2015.</ref>
 
Bu'n rhan o ddegawdau o brotestiadau gwleidyddol di-drais yn erbyn rhyfel [[Fietnam]] a nifer fawr o achosion eraill. Mae ei gerdd "''September on Jessore Road''," yn tynnu sylw i ddioddefaint pobl ffoaduriad [[Bangladesh|Bangladeshi]]. Yn ôl y beirniad llenyddol Helen Vendler mae hyn yn nodweddiadol o ymroddiad Ginsberg i wrthwynebu ''gwleidyddiaeth imperialaidd a gormesi'r difreintiedig''.
 
Er i'w waith cael ei wahardd a bu'n ran o'r is-ddiwylliant a heriodd syniadau poblogaidd y cyfnod erbyn diwedd ei oes bu Allen Ginsberg un o lenorion enwocaf yr iaith Saesneg. Roedd newyddion ei farwolaeth ym 1997 yn newyddion ymhlith prif penawdau yr newyddion a thalwyd teyrngedau llu iddo.