Aneirin Karadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 2:
 
==Gyrfa==
Bellach yn byw ym Mhontyberem, Sir gaergar ,ganwyd Aneirin Karadog yn ybsyty H.M Stanley Llanelwy ac fe'i magwyd am ddwy flynedd yn [[Llanrwst]], cyn symud lawr i fyw i [[Pontardawe|Bontardawe]]. Yno y bu tan 1990 pan symudodd ef a'i deulu i [[Pontypridd|Bontypridd]]. Bu'n ddisgybl yn [[Ysgol Gynradd Pont-Siôn-Norton]] ac yna [[Ysgol Gyfun Rhydfelen]] rhwng 1993-2000. Graddiodd wedyn o'r [[Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen]], gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Bu'n gweithio am gyfnod gyda [[Menter Iaith Rhondda Cynon Taf]] cyn cael swydd yn llanelli fel ymchwilydd gyda chwmni teledu [[Tinopolis]] yn 2005. Mae wedi cyflwyno ''[[Wedi 7]]'' ac arferai rannu'i amser rhwng y rhaglen ''[[Heno]]'' a ''[[Sam Ar y Sgrin]]'', ar [[S4C]].
 
Enillodd [[Gwobr Emyr Feddyg|Wobr Emyr Feddyg]] yn Eisteddfod Casnewydd 2004 a Chadair yr Urdd yn 2005. Cyhoeddodd gerddi ar y cyd yn y gyfrol Crap Ar Farddoni. Yn [[Eisteddfod Wrecsam 2011]] enillodd ar gystadleuaeth Y Delyneg.{{angen ffynhonnell}} Ym mis Mawrth 2012 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn unigol: ''O Annwn i Geltia'' (Cyhoeddiadau Barddas). Cyfrannodd Huw Aaron ugain o luniau a chlawr i'r gyfrol.<ref>[http://www.gwales.com/goto/biblio/en/9781906396473/SPY09?lang=CY&tsid=1 Gwefan Gwales;] adalwyd 17 Chwefror 2015</ref> Enillodd y gyfrol "O Annwn i Geltia" wobr Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn. Yn Eisteddfod yr Urdd Boncath, 2013, cyhoeddwyd mai Aneirin yw Bardd Plant Cymru 2013-2015.