Gŵydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tudalen ailgyfeirio

Newydd
Llinell 1:
{{Taxobox
#AILGYFEIRIO[[Aradr]]
| name = Gŵydd
| fossil_range =
[[Miosen|Miosen Hwyr]]-[[Holosen]], {{fossilrange|10|0}}
| image = Canada goose flight cropped and NR.jpg
| image_width =
| image_caption = [[Branta canadensis|Gŵydd Ganadaidd]], ''Branta canadensis''

{{audio|Geese Honking (distant).ogg|Sain gwyddau, o bell}}
| regnum = [[Animal]]ia
| phylum = [[Chordate|Chordata]]
| classis = [[Birds|Aves]]
| superordo = [[Galloanserae]]
| ordo = [[Anseriformes]]
| familia = [[Anatidae]]
| subfamilia = [[Anserinae]]
| tribus = '''Anserini'''
| tribus_authority =
| subdivision_ranks = [[genws|Genera]]
| subdivision =
''[[Anser (genus)|Anser]]''

''[[Branta]]''

''[[Chen (genus)|Chen]]
and see text

[[Aderyn]] y dŵr ydy'r '''ŵydd''', sy'n perthyn i'r llwyth biolegol a elwir yn ''Anserini'' yn nheulu'r ''Anatidae''. Mae'r llwyth hwn yn cynnwys y [[genws|genera]] [[Anser]] (yr ŵydd lwyd), [[Branta]] (yr ŵydd ddu) a'r [[Chen]] (yr ŵydd wen). Un o berthnasau'r ŵydd (o bell), sy'n yr un teulu, Anatidae, yw'r [[alarch]], sy'n [[rhywogaeth]] mwy na'r ŵydd a'r [[hwyaden]], sy'n llai ei faint. Mae'n aderyn cyfandroed a gelwir gŵydd wrywaidd yn '''glagwydd'''.

==Geirdarddiad==
Fel y gair Saesneg ''"goose"'', a'r [[Almaeneg|Almaeneg Uchel]] ''"guoske"'' tarddiad [[Proto-Indo-Ewropeg]] sydd i'r gair "gŵydd". ''"Gé"'' yw'r [[Gwyddeleg|Wyddeleg]] a ''"ghāz"'' ym [[Persieg|Mhersieg]], pob un yn ddigon tebyg i'r Gymraeg.<ref name=Partridge>{{Cite book|last=Partridge|first=Eric|authorlink=Eric Partridge|title=Origins: a Short Etymological Dictionary of Modern English|publisher=Greenwich House|year=1983|location=New York|isbn=0-517-414252|pages=245–246}}</ref><ref>{{cite book|last=Crystal|first=David |year=1998|title=The Cambridge Encyclopedia of Language|isbn= 0-521-55967-7}}</ref> ''"Gé"'' yw'r [[Gwyddeleg|Wyddeleg]], ''"guit"'' mewn [[Hen Gernyweg]], ''"gwaz"'' ([[Llydaweg|Llydaweg diweddar]], ''"géd"'' ([[Hen Wyddeleg]]. Mae'n ddigon tebyg, fod y gair yn tarddu o sŵn clebar yr aderyn: ''"gha gha"'' yw'r gair mewn Gwyddeleg diweddar. Yn Ne Cymru arefrid galw'r gwyddau, i'w bwydo, gan weiddi arnynt: "Gis, gis gis, giso bach!".

Ymddengys y gair yn gyntaf mewn ysgrifen yn y Gymraeg yn y [[13eg ganrif]], mewn dwy lawysgrif: [[Llyfr Du Caerfyrddin]] (''Boed emendiceid ir guit'') ac yn [[Y Llyfr Du o'r Waun]] (''er uyt or''). Ychydig yn ddiweddarach, ceir cofnod yn [[Llyfr Blegywryd]], sef un o'r tri dull taleithiol ar [[Cyfraith Hywel|Gyfraith Hywel]] (''Y neb a gaffo gwydeu yn y ty''). Sonia [[Dafydd ap Gwilym]] hefyd am yr ŵydd (''Ac ogylch Castell Gwgawn, / Gogwydd cyw gŵydd lle câi gawn.'')

==Dofi a bridio==
Ni wyddys ym mhle y dofwyd yr ŵydd yn gyntaf, naill ai yn ne-ddwyrain [[Ewrop]] neu yn [[yr Aifft]] o bosib. Mae hefyd yn bosib iddynt gael eu magu yn y ddau le ar yr un pryd, yn annibynol i'w gilydd. O'r Ŵydd Eifftaidd mae gwyddau de-ddwyrain Ewrop yn tarddu, ac o'r Ŵydd Wyllt mae gwyddau Ewrop (neu'r ''Anser anser'') yn tarddu. Bridiwyd llawer o fathau gwahanol o wyddau o'r ŵydd wyllt wreiddiol, gan gynnwys: Toulouse, Embden, Steinbacher, Pilgrim, y Byff Americanaidd a'r brid Cymreig, sef Byff Brycheiniog (''Brecon Buff''). Porai miloedd o wyddau ar fynyddoedd Cymru erbyn y [[18fed ganrif]], yn enwedig ar dir comin. Ceir tystiolaeth weledol o hyn mewn hen waliau sych, lle ceir weithiau 'dyllau gwyddau' yn enwedig mewn waliau terfyn y comin. Arferid gosod basged yn y cilfachau er mwyn i'r gwyddau gael lle diddos i nythu.<ref>''Fferm a Thyddyn''; Calan Gaeaf 2015; Rhif 56</ref>

==Y porthmon gwyddau==
Gwaith y Porthmon Gwyddau oedd eu cerdded o gefn gwlad i'r marchnadoedd yn y trefi, gan deithio tua chwe milltir y diwrnod - gwaith digon araf. Arferid trochi'r traed mewn pyg (''pitch'') meddal ac yna mewn tywod neu ro mân, er mwyn eu hamddiffyn rhag anafiadau ar y ffyrdd caregog.

==Y Nadolig==
Roedd eu niferoedd ar eu huchaf yn y [[19eg ganrif]], oherwydd y galw am eu cig ar fwrdd y [[Nadolig]].

==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}

[[Categori:Adar]]
[[Categori:Nadolig]]