Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Man gywiriadau |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Lleolwyd yr ysgol, 'Ysgol Gymraeg Caerdydd' ar Heol Ninian, Caerdydd a roedd 19 o ddisgyblion yn y dosbarth cyntaf hwnnw yn 1949. Symudodd yr ysgol maes o law i ardal Highfields yn [[Llandaf]], lle rhoddwyr yr enw Bryntaf oedd yn un topograffegol. Dyma leolpad Ysgol Gynradd Gymraeg Pencae bellach.<ref>[http://www.dinesydd.com/blw2010/dinesydd346p.pdf Y Dinesydd - April 2010]</ref> Gwelwyd twf cyson i'r ysgol o dan arweiniad ei phrifathrawes, Enid Jones. Yn ei bennod yn y llyfr ''Our Children's Language''<ref>[http://www.ylolfa.com/en/dangos.php?ISBN=0862437040 Our Children's Language]; <nowiki>ISBN 0862437040</nowiki></ref> galwodd Michael Jones ei chyfnod yn "inspired leadership".
== Safle Mynachdy ==
Oherwydd poblogrwydd yr ysgol bu'n rhaid symud i safle hen ysgol uwchradd Viriamu Jones yn stâd dai Mynachdy yn 1968 wrth ymyl lein reilffordd Caerdydd i Bontypridd. Erbyn diwedd cyfnod y Brifathrawes Enid Jones roedd yr ysgol wedi tyfu i 426 o ddisgyblion.
Noda Michael Jones yn ei erthygl fod y cyfnod hwn yn un "turbulent". Erbyn 1974 noda Michael Jones bod y prifathro newydd, Tom Evans, yn gwynebu drwg-deimlad gan y trigolion lleol at yr ysgol Gymraeg oedd "almost akin to racism". Poerwyd ar blant Bryntaf gan y trigolion lleol ac adeiladwyd blocâd i rwystro'r bysiau oedd yn cyrchu'r plant rhag cael mynediad i'r ysgol Gymraeg. Yn ôl un cyn-ddisgybl, Siôn Jobbins, bu galw enwau o bryd i'w gilydd rhwng y disgyblion Cymraeg a di-Gymraeg. Galwyd y disgyblion di-Gymraeg yn 'inglis' gan blant Bryntaf. Roedd y sefyllfa cynddrwg fel bod rhaid symud eto.
== Safle Y Parade ==
Oherwydd y drwg deimlad lleol a thŵf parhaus yr ysgol bu'n rhaid symud o'r safle yn Mynachdy, Gabalfa. Yn 1975 agorodd yr ysgol yn hen adeilad fawr Cardiff Highschool for Girls ar y Parade yng nghanol dinas Caerdydd, lleoliad Coleg Caerdydd a'r Fro bellach.
Llinell 20:
Daeth Bryntaf i ben yn haf 1980 pan agorwyd [[Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd]] yn [[yr Eglwys Newydd]] ac yna yn 1981 [[Ysgol y Wern]] ac [[Ysgol Coed-y-Gof]] (gyda Tom Evans yn brifathro arni). Parhaodd dros 100 o blant i dderbyn eu haddysg ar yr hen safle yn yr ysgol dan yr enw newydd Ysgol y Rhodfa. Ond roedd y rhieni'n anhapus gyda'r sefyllfa. Er gwaethau diffyg cefnogaeth gan MR G.O. Pearce, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Sir [[De Morgannwg]] i ganfod ysgol Gymraeg arall, nodwyd bod niferoedd ysgol Saesneg Pen-yr-Heol yn cwympo a gellid symud y plant cyfrwng Cymraeg yno, er gwaetha'r ffaith bod y lleoliad yn bell o gartrefi mwyafrif helaeth y plant.
==
* Enid Jones, Prifathrawes: 1949 - 1972
* Tom Evans, Prifathro: 1972 - 1979▼
▲Tom Evans, Prifathro: 1972 - 1979
== Bryntaf Unigryw ==
Llinell 32 ⟶ 31:
== Dolenni ==
*[https://www.youtube.com/watch?v=AMEsyuf5nmY Clip Youtube o Mabel Gampau [sic.<nowiki>]</nowiki> Ysgol Bryntaf yn yr 1970au]
*[[Rhestr_ysgolion_cynradd_Caerdydd|Rhestr Ysgolion Cynradd Caerdydd]]
== Darllen Pellach ==
*[['
* Pennod gan Michael Jones, [https://books.google.co.uk/books?id=sJQcDonjEY0C&pg=PA168&lpg=PA168&dq=bryntaf+primary+school+cardiff&source=bl&ots=pZfkLpSEhn&sig=x5HVYhWYU6R3cJ2pEuJetjRbGkE&hl=cy&sa=X&ved=0ahUKEwirzJvvg9TJAhUE7RQKHeOmDvkQ6AEINTAD#v=onepage&q=bryntaf%20primary%20school%20cardiff&f=false 'Capital Growth in Cardiff'] yn llyfr 'Our Children's Language' (Gol. Iolo Wyn Williams) ar ffurf pdf
==Cyfeiriadau==
{{Reflist}}
[[Categori:Ysgolion cynradd Caerdydd]]
|