Brad y Llyfrau Gleision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Adroddiad ar gyflwr [[addysg]] yng [[Cymru|Nghymru]] a gomisiynwyd gan senedd [[San Steffan]] oedd '''Brad y Llyfrau Gleision'''. Cyflwynwyd yr Adroddiad terfynol yn haf [[1847]]. Cyfeiria lliw y llyfrau at y clawr glas a roddwyd arnynt (lliw traddodiadol papurau swyddogol llywodraeth [[Y Deyrnas Unedig|Prydain]]). Mae'r enw ei hun yn fwysair ar [[Brad y Cyllyll Hirion|Frad y Cyllyll Hirion]], pan laddwyd nifer o bendefigion y [[Brythoniaid]] trwy ddichell y [[Saeson]], yn ôl traddodiad, wedi i [[Hengist]] wahodd [[Gwrtheyrn]] i'w wledd. Y [[bardd]] a [[gwladgarwr]] [[R. J. Derfel]] a fathodd yr enw.
 
==Yr adroddiad a'r ymateb iddo==
Comisiynwyd yr Adroddiad yn dilyn cais [[William Williams]], [[Aelod Seneddol]] [[Coventry]] ond Cymro o [[Llanpumsaint|Lanpumsaint]], [[Sir Gaerfyrddin]] yn wreiddiol. Roedd yn ddyn hynod o wrth-Gymraeg ac yn Sais-addolwr. Yn ôl Williams, roedd angen trefn addysg newydd fel y byddai'r Cymry "''instead of appearing as a distinct people, in no respect differ from the English''". Troi'n Sais o ran iaith a meddylfryd oedd yr ateb i gyflwr y Cymry. Roedd y Cymry dan anfantais oherwydd "''the existence of an ancient language''".<ref>Dyfynnir yn ''Aros Mae'' gan Gwynfor Evans (Abertawe, 1971), t. 260</ref>
 
Llinell 12:
Bu'r adroddiad gan [[R. R. W. Lingen]], Jellynger C. Symons a H. R. Vaughan Johnson, tri [[Eglwys Loegr|Eglwyswr o Sais]] na siaradai Gymraeg, yn ysgytwad i Gymry'r cyfnod gan iddo daflu amheuaeth ar eu [[moesoldeb]] ac am natur gyfrin a gwrthryfelgar yr iaith Gymraeg. Yr ymateb yma o 'frad' gan y Sefydliad Seisnig oedd y rheswm tu ôl i'r term 'Brad y Llyfrau Gleision' gael ei bathu. Yn ei ragymadrodd dywedir:
:"''The Welsh language is a vast drawback to Wales and a manifold barrier to the moral progress and commercial prosperity of the people.''" <ref name="Dyfynnir yn Aros Mae, t. 262"/>
 
==Ymatebion i'r adroddiad==
 
Mae'r Adroddiad yn adnodd hynod ddiddorol a gwerthfawr ar gyfer haneswyr cymdeithasol a lleol. Ond ei brif effaith a'i enwogrwydd oedd iddo greu adwaith seicolegol o waseidd-dra ymhlith y Cymry wrth iddynt geisio gwrth-brofi y sen ar eu moesoldeb a'u hiaith a achoswyd gan yr Adroddiad.
 
Cyfansoddodd y bardd [[John Ceiriog Hughes]] ei ddilyniant o gerddi '[[Alun Mabon]]' (1862) fel ymateb ymwybodol i'r darlun o'r Cymry a geir yn yr Adroddiad.
 
Yn ei ddarlith radio adnabyddus [[Tynged yr Iaith]], meddai [[Saunders Lewis]]:
 
:Prin fod neb awdwr o Gymro eto wedi cydnabod yr hyn sy'n wir, mai'r Llyfrau Gleision hyn yw'r ddogfen hanesyddol bwysicaf a feddwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a bod ynddi stôr o wybodaeth nas defnyddiwyd eto.<ref>https://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Iaith/TyngedIaith/tynged.htm</ref>
 
Cyfansoddodd y bardd [[John Ceiriog Hughes]] ei ddilyniant o gerddi '[[Alun Mabon]]' (1862) fel ymateb ymwybodol i'r darlun o'r Cymry a geir yn yr Adroddiad.
 
==Cyfeiriadau==