Wicipedia:Pwll tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Gwacawyd y dudalen a gosod y canlynol yn ei lle: ''''Gwasgwch ar y botwm 'Golygu cod y dudalen' uchod, wedyn gludwch eich testun i'r blwch a chliciwch y botwm 'Dangos Rhagolwg' isod'''. <br> (Pe...'
Mae'r erthygl yn disgrifio'r tarddiad CasNewydd
Llinell 1:
 
'''Gwasgwch ar y botwm 'Golygu cod y dudalen' uchod, wedyn gludwch eich testun i'r blwch a chliciwch y botwm 'Dangos Rhagolwg' isod'''. <br>
Yr Ych hudol [[Casnewydd]].
(Peidiwch â gwasgu'r botwm 'Cadw'r dudalen')
 
Mae’n anodd iawn gwybod beth sy’n gywir pan dach chi’n ymchwilio i mewn i fywydau pobl dros fil a hanner o flynyddoedd yn ôl. Yn bendant roedd Gwynllyw yn bodoli, mab hyna Glywys a gafodd deyrnas sylweddol yn Ne Cymru. Etifeddwyd y deyrnas gan Gwynllyw a’i frodyr ac roedden nhw’n llwyddiannus yn cadw’r ardal yn ddiogel.
Mae o’n weddol ddadleuol sut mor heddychol oedd Gwynllyw, mewn rhai storiâu cafodd o ei ddisgrifio fel rhyfelwr cryf a didrugaredd ond mewn storiâu eraill awgrymwyd ei fod o’n fwy diplomyddol. Pwy a wŷr? Mae pawb yn cytuno taw ar ddiwedd ei fywyd trodd Gwynllyw yn grefyddol, gadawodd ei deyrnas a sefydlodd eglwys ar Fryn Stow.
Ond pam basai dyn mor dreisiol yn newid mewn ffordd mor ddramatig? Wel gafodd Gwynllyw freuddwyd neu weledigaeth. Gwelodd o Ych gwyn efo smotyn du ar ei dalcen, a phenderfynodd o grwydro’r ardal tan iddo fo darganfod y bwystfil. Pan ddeuai o hyd i’r ych sefydlodd o eglwys, ac roedd o’n byw ynddi hi fel meudwy syml.
Rŵan mae Bryn Stow yng nghanol dinas bwysig, sef Casnewydd, ac mae’r eglwys syml yn eglwys Gadeiriol, ond faint o bobl yn cofio’r tarddiad hanesyddol? Neu sylweddoli bod enw go iawn eu heglwys gadeiriol yw Sant Gwynllyw, ond doedd y Saeson ddim yn gallu datganu’r enw, felly gafodd o ei newid i St Woolos!
Mae’r hanes yn gynnwys sawl pwynt diddorol. Cyntaf oedd y traddodiad o rannu ternasau rhwng sawl plentyn yn nodweddiadol o ddiwylliant Celtaidd, ac mae rhai haneswyr yn rhoi’r bai ar y traddodiad hwn am llwyddiant y Saeson yn erbyn y Cymry. Yn ail mae’na ychen gwynion yng Nghymru o hyd, yng Nghastell Dinefwr, bwystfilod mawreddog efo cyrn enfawr. Ac yn olaf roedd Gwynllyw dad i [[Cadog|Gadog Sant]], un o’r seintiau pwysica yng Nghymru.