Myrr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nadolig Llawen i bawb!
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:02, 25 Rhagfyr 2015

Resin aromatig sy'n cael ei ddefnyddio mewn arogldarth a phersawrau yw Myrrh (o'r Hebraeg "מור" ("mor") ac Arabeg مر (mur); caiff ei gynaeafu o goed pigog, llawn drain y genws Commiphora,[1] a chaiff ei ystyried yn olew hanfodol a elwir yn oleoresin. Math o gwm naturiol yw resin myrrh, sydd wedi cael ei ddefnyddio am ganrifoedd mewn persawr, arogldarth a meddyginiaeth, neu ar adegau drwy ei gymysgu â gwin.

Y goeden Commiphora myrrha , un o'r prif goed a dyfir er mwyn cynaeafu Myrrh.
Mae Myrrh yn bur gyffredin yng Nghorn Affrica.
Olew a echdynnir allan o'r myrrh (Commiphora myrrha).

Mae'r broses o gynaeafu myrrh yn hawdd: gwneir twll yn rhisgl y goeden nes cyrhaeddir y gwynnin, a gwaeda'r goeden yn naturiol, ar ffurf resin hanner hylifol; dyma'r resin, sy'n hynod o debyf i thus. Mae cynaeafu'r goeden fel hyn yn anafu'r goeden ac mae'r resin yn caledu'n sydyn, gyda sglein arno. Mae hefyd yn melynnu a gall fod yn glir neu'n dryleu. Gyda thruliad amser mae'n tywyllu, gyda rhesin gwyn arno.[2]

Rhywogaethau

Y rhywogaeth a ddefnyddir yn amlaf yw'r Commiphora myrrha, sy'n frodorol o Yemen, Somalia, Eritrea a dwyrain Ethiopia. Bellach (o ran tacsonomeg) ystyrir y Commiphora molmol,[3] yn un o gyfenwau'r Commiphora myrrha.[4] Cyfeirir at Commiphora gileadensis, sy'n frodorol o Orynys Arabia mae'r cyfeiriad beiblaidd: Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo,wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod. 22Onid oes balm yn Gilead? Onid oes yno ffisigwr?[5] Ceir sawl cyfeiriad yn yr Hen Destament (e.e. Genesis 37:25 and Ecsodus 30:23.) ac yn y Testament Newydd yn Llyfr Matthew, yn un o'r anrhegion a roddwyd i'r baban Iesu Grist, gan y Doethion, yn ô y Beibl.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Rice, Patty C., Amber: Golden Gem of the Ages, Author House, Bloomington, 2006 tud.321
  2. Caspar Neumann, William Lewis, The chemical works of Caspar Neumann, M.D.,2nd Ed., Vol 3, London, 1773 p.55
  3. Newnes, G., ed., Chambers's encyclopædia, Volume 9, 1959
  4. Accessed on February 24, 2014; The Plant List. 2013. Version 1.1.
  5. bible.com; Jeremeia8 18-22BCN; adalwyd 25 Rhagfyr 2015