Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 24:
 
==Dianc i Lydaw==
Roedd buddugoliaeth Edward IV dros y Lancastriaid ym [[Brwydr Tewkesbury|Mrwydr Tewkesbury]] yn ysgubol. Lladdwyd nifer o uchelwyr gan gynnwys: John Beaufort, Somerset a Warwick. Yn dilyn y frwydr, ar 21 Mai, martisodd Edward ei filwyr i Lundain, gan hawlio Coron Lloegr, a'r noson honno bu farw Harri VI yn [[Tŵr Llundain|Nhŵr Llundain]], yn fwy na thebyg dan orchymyn Edward.<ref>''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Foenix Paperback (2013) tud. 76-9</ref> Tra ymladdwyd y frwydyr, roedd yr Harri Tudur ifanc yn saff yng [[Castell Penfro|Nghastell Penfro]] a'i ewyrth Siasbar Tudur; pendronodd Siasbr beth oedd oblygiadau'r frwydr i'w deulu ac i'r Lancastriaid, a pha gamau i'w cymryd i ddyrchafu Harri i'r orsedd. Danfonodd y brenin newydd Roger Vaughan o Dretower i ddal Siasbar, ond Siasbar symudodd gyntaf, gan ddienyddio Roger; yn eironig Roger Vaughan oedd y person a orchmynodd ladd tad Siasbar, sef [[Owain Tudur]], ddeg mlynedd ynghynt. Yn dilyn hyn, hwyliodd Siasbar a Harri i Ffrainc ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, [[Finistere]], [[Llydaw]] lle croesawyd y ddau gan [[Francis II, Dug Llydaw]] a chawsant eu cadw yn ''Château de l'Hermine'' i ddechrau cyn eu trosglwyddo i ''Château de Suscinio'', [[Morbihan]], yn Hydref 1472. Bu farw [[Henry Stafford]], ail ŵr Maragret Beaufort, mam Harri, o'r clwyfau a dderbyniodd ym Mrwydr Tekesbury ac ar 2 Mehefin 1472 priododd a Iorcydd cyfoethog [[Thomas Stanley]] oedd a thir yng Ngogledd Cymru, [[Sir Gaer]] a [[Swydd Gaerhirfryn]].
 
==Plant==