Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
1/8 Cymro... neu fwy?
Llinell 5:
Roedd '''Harri Tudur''' ([[Saesneg]] Henry Tudor), y brenin '''Harri VII o Loegr''' ([[28 Ionawr]] [[1457]] - [[21 Ebrill]] [[1509]]), yn frenin [[teyrnas Lloegr]] o [[1485]] hyd at ei farwolaeth. Mab [[Edmwnd Tudur]], un o feibion [[Owain Tudur]] a [[Margaret Beaufort]] oedd Harri; roedd a brawd [[Siasbar Tudur]] yn frawd i'w dad. [[Elisabeth o Efrog]] oedd ei wraig. Yng [[Castell Penfro|nghastell Penfro]], pencadlys ei ewythr Siasbar yn [[Sir Benfro]], de-orllewin [[Cymru]], y cafodd ei eni a'i fagu.
 
Daeth yn frenin Lloegr yn [[1485]] ar ôl ennill [[brwydr Bosworth]] a churo'r brenin [[Rhisiart III, brenin Lloegr|Rhisiart III]] a laddwyd ar y maes ar ôl y frwydr. Cynrychiolai blaid y [[Lancastriaid]] yn erbyn yr [[Iorciaid]] yn rhan olaf [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]]. Ond llwyddodd i uno'r ddwy blaid a rhoi terfyn ar y rhyfel drwy briodi aeres Iorcaidd - [[Elisabeth o Efrog]]. Bregus iawn oedd ei hawl i fod yn frenin Lloegr, ond medrai aros mewn grym drwy ei ddoniau gwleidyddol. Llwyddodd i greu perthynas dda rhwng Lloegr â'r Alban drwy drefnu priodas ei ferch Marged â'r brenin [[Iago IV, brenin yr Alban]].
 
==Harri'r Cymro==
Defnyddiodd ei gysylltiadau teuluol â Chymru i ennill cefnogaeth y Cymry i'w ymgyrch i gipio'r goron, ond ni ddefnyddiodd ei ddylanwad wedyn i adfer ymreolaeth y Cymry. Roedd y Cymry a'i dilynodd i faes Bosworth yn gobeithio mai Harri oedd y [[Mab Darogan]] - fel [[Owain Lawgoch]] ac [[Owain Glyndŵr]] o'i flaen - a fyddai'n adfer [[Ynys Brydain]] i'r [[Brythoniaid]], sef y [[Cymry]]. Erys ar glawr nifer o [[Canu Darogan|gerddi darogan]] neu [[Brud|frudiau]] o'r cyfnod hwnnw sy'n dangos mor angerddol oedd y gobaith fod yr amser hir-ddisgwyliedig wedi dod. Wythfed rhan o Gymro o ran ei waed oedd Harri ac nid oes sicrwydd ei fod yn medru siarad [[Cymraeg]] er iddo gael ei fagu yn y castell ym Mhenfro. Treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn [[Llydaw]]. Yn ôl yr hanesydd Chris Skidmore, fodd bynnag, fe'i nyrsiwyd am flynyddoedd gan wraig Philip ap Howel o Gaerfyrddin a fyddai "fwy na thebyg" wedi ei ddysgu i ddeall a siarad Cymraeg'. Rhaid cofio hefyd, er mai Iorcydd oedd yn rheoli'r rhan fwyaf o Dde Cymru yr adeg honno, gan gynnwys Castell Penfro, sef [[William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)]], ei fod yn ŵr diwylliedig iawn, ac yn dipyn o arwr i [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]] fel [[Guto'r Glyn]].<ref>''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 32.</ref>
 
Mewn llythyr gan [[Louis XI, brenin Ffrainc|Louis XI]] at Guillaume Compaing, deon o [[Orleans]], dywedd Louis dro ar ôl tro (gan gyfeirio at ei ymosodiad aflwyddiannus gyda Siasbar, pan laniodd tair llong Ffrengig yn aber yr afon [[Dyfi]]: ''Pe bai Siasbar yn dymuno dychwelyd i Gymru i adennill ei diroedd yna byddai'n cael ffafrau (gen i) i gyflawni hynny, a sawl tro bu pwysau arno gan bobl yng Nghymru i wneud hynny.... Rhoddodd y Brenin (Ffrainc) pob ffafr posibl iddo wneud hynny oherwydd clymiadau teuluol agos, fel y gallai adennill, cadw ac amddiffyn ei ystadau a'i diroedd yng Nghymru.'' Nid unwaith y sonia'r y Brenin mai ymosodiad ar Loegr ydoedd. Barn rhai haneswyr o Loegr yw nad oedd llinach Gymreig Harri wedi chwarae unrhyw ran ym Mrwydr Bosworth a gorseddu Harri yn Frenin Lloegr.<ref>''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 94/5.</ref>
Llwyddodd i greu perthynas dda rhwng Lloegr â'r Alban drwy drefnu priodas ei ferch Marged â'r brenin [[Iago IV, brenin yr Alban]].
 
==Cefndir==