Rowland Filfel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cats
3
Llinell 1:
Roedd '''Syr Rowland Filfel''' (neu '''''Roland de Velville'''''; hefyd ''Vielleville'', ''Veleville'', neu ''Vieilleville'') (1474 - 25 Mehefin 1535)<ref name=PBDnRP2008A>See Peter Beauclerk-Dewar & Roger Powell, "King Henry VII (1457-1509):Roland de Velville (1474-1535)", in ''Royal Bastards: Illegitimate Children of the British Royal Family'' (Gloucestershire, U.K.: The History Press, 2008), e-lyfr, tud. 177-186, ISBN 0752473166.</ref> yn fab anghyfreithlon i [[Harri VII, brenin Lloegr]] a Llydawes na wyddys bellach mo'i henw.<ref name=Weir1999>Alison Weir, Britain's Royal Families: The Complete Genealogy (London, U.K.: The Bodley Head, 1999), tud. 152.</ref>. Roedd Harri tua 14 oed pan gafodd Rowland ei genhedlu.

Cyd-deithiodd gyda Harri mewn llong o Lydaw i [[Penfro|Benfro]] pan gychwynodd ar ei daith drwy Gymru i [[Brwydr Bosworth|Frwydr Bosworth]].<ref name=PBDnRP2008B>See Beauclerk-Dewar & Powell, tud. 177-186, citing Prof SB Chrimes, Cardiff University, and WRB Robinson, writing separately in the ''Welsh Historical Review'', and Prof RA Griffiths and RS Thomas, University College, Swansea, in "The Making of the Tudor Dynasty" (ISBN 0750937769).</ref>
 
Ef oedd tad Jane Velville, mam [[Catrin o Ferain]].
 
Er nad oedd ganddo safle /swydd swyddogol, roedd yn ŵr llys poblogaidd ac yn "cael ei ffafrio gan y brenin, gan gymryd rhan mewn [[ymwan]]iadau a [[hela]], gyda Harrir'r VII".<ref name=PBDnRP2008A/> Cafodd ei hyfforddi'n filwr yn Llydaw yn 1489 ac o bosib yn FFrainc hefyd yn 1492. Cafodd ei wneud yn farchog wedi [[Brwydr Blackheath]] yn 1497 a derbyniodd lawer o ffafrau gan y brenin drwy gydol ei oes.<ref>The British Monarchy (The official website of), 2014, "Accession", see [https://www.royal.gov.uk/RoyalEventsandCeremonies/Accession/Accession.aspx], adalwyd 22 Mehefin 2014.</ref><ref name=PBDnRP2008A/>
de Velville died on 25 June 1535, cause unknown, and was buried in the Chapel of the Blessed Virgin Mary in Beaumaris Castle.<ref name=PBDnRP2008A/>
 
==Ynys Môn==
Yn ôl yr haneswyr Beauclerk-Dewar a Powell dengys y dystiolaeth hanesyddol i Filfel fod yn bresennol mewn llawer o ymwaniadau swyddogol megis priodasau uchelwyr, ymweliadau brenhinoedd tramor, rhwng 1494-1507. Ym Mai 1509 roedd yn brennol yn angladd Harri'r VII, fel Marchog o'r Gosgordd Brenhinol ac yna bu'n rhan o ddathliadau dyrchafu Harri VIII i orsedd Lloegr. Ychydig wedyn, yn 1509, fe'i hapwyntiwyd yn Gwnstabl a Chapten [[Castell Biwmares]], Ynys Môn, swydd y daliodd tan iddo farw ym Mehefin 1535.<ref name=Weir1999/><ref name=PBDnRP2008A/>
 
==Priodi a phlant==
Priododd Agnes (née Griffith), gweddw Robert Dowdyng a merch Gwilym Griffith Fychan; roedd Agnes felly'n chwaer i Syr William Griffith, Siambrlen Gogledd Cymru.<ref name=Weir1999/><ref name=PBDnRP2008A/> O'r briodas hon, cafwyd dwy ferch: Grace a Jane. Jane oedd mam Catrin o Ferain a elwid yn "Fam Cymru".<ref>John Ballinger, "Katheryn of Berain", ''Y Cymmrodorion'', Vol. XL, Cymdeitha y Cymrodorion, Llundain, 1929, see [http://www.archive.org/stream/ycymmrodor40cymmuoft/ycymmrodor40cymmuoft_djvu.txt], adalwyd 22 Mehefin 2014.</ref>
 
==Cyfeiriadau==