Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Edward Woodville
Llinell 27:
Roedd buddugoliaeth Edward IV dros y Lancastriaid ym [[Brwydr Tewkesbury|Mrwydr Tewkesbury]] yn ysgubol. Lladdwyd nifer o uchelwyr gan gynnwys: John Beaufort, Somerset a Warwick. Yn dilyn y frwydr, ar 21 Mai, martisodd Edward ei filwyr i Lundain, gan hawlio Coron Lloegr, a'r noson honno bu farw Harri VI yn [[Tŵr Llundain|Nhŵr Llundain]], yn fwy na thebyg dan orchymyn Edward.<ref>''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Foenix Paperback (2013) tud. 76-9</ref> Tra ymladdwyd y frwydyr, roedd yr Harri Tudur ifanc yn saff yng [[Castell Penfro|Nghastell Penfro]] a'i ewyrth Siasbar Tudur; pendronodd Siasbr beth oedd oblygiadau'r frwydr i'w deulu ac i'r Lancastriaid, a pha gamau i'w cymryd i ddyrchafu Harri i'r orsedd. Danfonodd y brenin newydd Roger Vaughan o Dretower i ddal Siasbar, ond Siasbar symudodd gyntaf, gan ddienyddio Roger; yn eironig Roger Vaughan oedd y person a orchmynodd ladd tad Siasbar, sef [[Owain Tudur]], ddeg mlynedd ynghynt. Yn dilyn hyn, hwyliodd Siasbar a Harri i Ffrainc ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, [[Penn-ar-Bed]] (''Finistere''), [[Llydaw]] lle croesawyd y ddau gan [[Francis II, Dug Llydaw]] a chawsant eu cadw yn ''Château de l'Hermine'' i ddechrau cyn eu trosglwyddo i ''Château de Suscinio'', [[Morbihan]], yn Hydref 1472. Bu farw [[Henry Stafford]], ail ŵr Maragret Beaufort, mam Harri, o'r clwyfau a dderbyniodd ym Mrwydr Tekesbury ac ar 2 Mehefin 1472 priododd a Iorcydd cyfoethog [[Thomas Stanley]] oedd a thir yng Ngogledd Cymru, [[Sir Gaer]] a [[Swydd Gaerhirfryn]].
 
Ceisiodd Edward IV 'brynnu' Siasbar a Harri ar sawl achlysur, er mwyn dod â bygythiad y Lancastriaid i ben unwaith ac am byth. Rhoddodd [[Louis XI, brenin Ffrainc|Louis XI]], Brenin Ffrainc, gryn bwysau arno, hefyd, i drosglwyddo'r ddau iddo, gan ei fod yn gefnder cyntaf i Siasbar. Penderfyniad Francis yn 1474 oedd gwahanu'r ddau gan drosglwyddo Siasbar i Gastell Josselin, 25 milltir o [[Gwened]] (''Vannes'') lle y bu tan 1475 a Harri i 'Gastell yr Un Tŵr ar Ddeg' (Ffrangeg: ''Château de Largoët''), dan ofalaeth [[Jean IV de Rieux|Jean de Rieux]].<ref>''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Foenix Paperback (2013) tud. 98</ref> Pan ddaeth [[Richard II, brenin ]] yn Arglwydd Amddiffynnydd ar farwoaeth disyfyd ei frawd Edward IV, dechreuodd erlyn rai o deulu-yng-nghyfraith ei frawd (y Woodvilles) a ffôdd Syr [[Edward Woodville]] i [[Llydaw|Lydaw]] gyda £10,250 mewn darnau aur, gan geisio [[Siasbar Tudur]] a [[Harri VII]] fel cyd-gynllwynwyr ymosodiad potensial ar Goron Lloegr.
 
Pan oedd Harri tua pymtheg oed, bu ganddo Llydawes yn gariad; ni wyddys ei henw, ond cafodd blentyn: [[Rowland Filfel]], a ddychwelodd efo Siasbar a Harri i Gymru flynyddoedd yn ddiweddarach.
 
==Plant==