Margaret Beaufort: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
priodas ei mab
cyfs
Llinell 1:
[[Delwedd:MargaretBeaufort2.jpg|200px|bawd|Margaret Beaufort]]
'''Margaret Beaufort''', Comtes [[Richmond]] ([[31 Mai]], [[1443]] - [[29 Mehefin]], [[1509]]), oedd merch [[John, Dug 1af Somerset]] a mam Harri Tudur ([[Harri VII, brenin Lloegr]]). Yn [[1455]], a hithau'n ferch ifanc 12 oed, priododd [[Edmwnd Tudur]], mab [[Catherine de Valois]] gan [[Owain Tudur]] a brawd [[Siasbar Tudur]]. Bu farw Edmwnd yn [[1456]], ond cawsant fab. Trwy ei fam roedd Harri Tudur yn medru olrhain ei dras i [[John o Gaunt]] ac felly'n medru hawlio [[Coron Lloegr]] yn enw'r [[Lancastriaid]]. Ar ôl marwolaeth Edmwnd priododd [[Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby|Thomas, Arglwydd Stanley]] (1435 – 29 Gorffennaf 1504).
 
Cafodd Margaret ei charcharu am gyfnod gan yr [[Iorciaid]] yn ystod [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]].
 
==Trefnu priodas ei mab==
Yn 1482, wedi i [[Richard III, brenin Lloegr]] gipio coron Lloegr oddi wrth [[Edward V, brenin Lloegr|Edward V]] a oedd ar y pryd yn ddim ond 12 mlwydd oed, ffodd mam Edward, [[Elizabeth Woodville]] am ei bywyd gan hawlio lloches, gyda'i merch [[Elisabeth o Efrog]] ac eraill o'i theulu, yn [[Abaty Westminster]]. Bu yno am rai misoedd; yn y cyfamser, roedd y brenin newydd yn awyddus iawn i'w hatal rhag cysylltu gyda [[Harri Tudur]] yn [[Llydaw]], ac yn awyddus i'w cloi yn [[Tŵr Llundain|Nhŵr Llundain]]. I'r perwyl hwn, amgylchynodd Richard yr abaty gyda llu o'i filwyr gorau i atal neb rhag mynd i fewn nag allan. Roedd Margaret Beaufort yn awyddus i gysylltu gydag Elizabeth, a oedd i bob pwrpas yn garcharor yn yr abaty. Meddyg Elizabeth Woodville a'i theulu oedd yr Lancastriad Lewis o Gaerleon, a heriodd farwolaeth sawl tro yn mynd a negeseuon o'r naill at y llall, gan drefnu gyda nhw briodas Harri a merch Elisabeth, sef Elisabeth o Efrog. Hi felly drefnodd yr uniad rhwng yr Iorciaid a'r Lancastriaid, a hynny flynyddoedd cyn y briodas ei hun ac a ysbrydolodd lawer o'r ddwy ochor i sicrhau llwyddiant Harri Tudur.<ref>[http://wbo.llgc.org.uk/cy/c5-LEWI-SOG-1491.html Gwefan Bywgraffiadur ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol]</ref><ref>Polydore Vergil gofnododd hyn; drwy: ''Bosworth: The Birth of the Tudors''; Gwasg Phoenix; 2003. Tud. 139</ref>
 
==Gwaddol==
Llinell 21:
[[Categori:Genedigaethau 1443|Beaufort, Margaret]]
[[Categori:Marwolaethau 1509|Beaufort, Margaret]]
 
 
{{eginyn hanes}}
 
{{Authority control}}