Ceinewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu a diweddaru |
|||
Llinell 17:
|cardiff_distance_mi = 90
|cardiff_distance = De-Ddwyr
|population =
|population_ref = Cyfrifiad
|static_image = [[File:New Quay 2.jpg|240px]]
|static_image_caption = <small>Yr harbwr</small>
}}
Mae '''Ceinewydd''' (hefyd weithiau '''Cei Newydd''', "''Y Cei''" ar lafar; {{iaith-en|New Quay}}) yn dref fechan a chymuned ar arfordir [[Ceredigion]], [[Cymru]].
==Hanes==
[[Delwedd:Traeth y Cei 1988.jpg|bawd|chwith|250px|Traeth y Cei]]
===Eglwysi===
Ceir yma dwy eglwys hynafol: Llanllwchhaearn a Llanina. Cysegrwyd y cyntaf i sant [[Iwerddon|Gwyddelig]] a'r ail i [[Ina]], merch [[Ceredig]], llywodraethwr [[Ceredigion]] yn y [[6ed ganrif]]. Mae'r ddwy eglwys yn cael eu nodi ar fapiau mor gynnar â 1644.
===Yr harbwr===
Bu yma gychod pysgota ers canrifoedd ac yn 1748 comisiynwyd Lewis Morris i lunio siart o arfordir bae Ceredigion. Yn y 1690au roedd harbwr bychan o'r enw Penpolion yn bod (ger Gorsaf y Bad Achub heddiw), sef morglawdd syml wedi ei wneud o bolion pren, drwy eu cnocio'n ddyfn i'r ddaear.
Gan fod yr harbwr yn llawer nes i Lundain nag [[Aberdaugleddau]], bu adeg pan ystyriwyd ei throi'n harbwr enfawr, gan y medrai cychod o gryn faint ddod i fewn i'r harbwr ar chwarter llanw a gwnaed nifer o ymdrechion i'r perwyl. Fodd bynnag yn 1834 codwyd y pier presennol, wedi'i gynllunio gan Daniel Beynon: 456 troedfedd o hyd ar dair lefel. Costiodd £4,722 a ffurfiwyd Cwmni Harbwr Cei Newydd yn y Llew Du, yn [[Llambed]] yn 1835. Roedd gan y cwmni awdurdod dros y arfordir o [[ynys Lochtyn]] (ger [[Llangrannog]] i fyny i Graig Ddu yng [[Cei Bach|Nghei Bach]].
===Smyglwyr===
Roedd Cei Newydd yn hafan i smyglwyr am ran helaeth o'r [[18fed ganrif]], a cheir llawer o dystiolaeth fod yr Awdurdodau (y "Refeniw" fel y'i gelwid) yn cadw llygad barcud ar y pentref oherwydd y ''contraband''. Yn ystod Rhyfel Napoleon codwyd treth neu doll ar lawer o nwyddau gan gynnwys [[te]] a oedd a threth o bedwar swllt y pwys. Nwyddau eraill a oedd yn cael eu trethu'n uchel oedd gwin, halen, gwirodydd a thybaco. Roedd y dreth ar halen yn eithriadol o amhoblogaidd gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i biclo neu gadw pysgod yn ffres. Fel y dangosodd yr hanesydd [[Geraint Jenkins]], yn 1704 cyrhaeddodd 3 chwch yn llawn halen (a phedair arall ar y ffordd) ac roedd yno 150 o ddynion gyda 200 o geffylau'n eu gwagio. O'r Iwerddon a Ffrainc y deuai'r contraband, fel rheol.
Ceir rhwydwaith o ogofâu ger Heol yr Eglwys (ochor 'Penwaig') a dyllwyd yn benodol i guddio contraband. Efallai ma'r smyglwr enwocaf oedd [[Siôn Cwilt]] a cheir ysgol gynradd gerllaw sy'n dwyn ei enw. Gwisgai got cwilt clytwaith, o liw coch, a storiai newyddau mewn hen fwthyn ar dir sy'n cael ei adnabod heddiw fel [[Banc Siôn Cwilt]] ger [[Synod Inn]]; roedd hefyd yn gyfrifol am eu dosbarthu ledled yr ardal. Ymddengys ei enw fel 'John Qwilt' yng nghofrestr y plwyf yn Eglwys Llanina.
==Cyfrifiad 2011==
Llinell 53 ⟶ 66:
==Llyfryddiaeth==
* Myra Evans, ''Atgofion Ceinewydd'' (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth, 1961). Atgofion yr awdures am fywyd gwerin 'y Cei' ar droad yr 20fed ganrif.
* ''Cei Newydd: Hanes Trwy Luniau'' gan Roger Bryan; ''Llanina Books''; 2012.
==Golygfeydd==
|