Dafydd Hywel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Actor Cymreig yw '''Dafydd Hywel''' (ganwyd [[1946]]) sydd wedi cael gyrfa hir mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu. Magwyd e yn [[Glanaman|Nglanaman]] a mae'n byw bellach yn [[Capel Hendre]] ger Rhydaman.<ref>[http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9781848515376/ Dafydd Hywel - Hunangofiant Alff Garnant; Adalwyd 2015-12-29 ]</ref>.
 
==Gyrfa==
Roedd yn chwarae Jac Daniels, un o gymeriadau lliwgar [[Pobol y Cwm]] yn yr [[1980au]]. Fe ymddangosodd ar y rhaglen blant [[Miri Mawr]] yn chwarae Caleb y Twrch.
 
Mae wedi actio mewn cyfresi Cymraeg fel [[Y Pris]] a [[Pen Talar]], ffilmiau [[Rhosyn a Rhith]], [[I Fro Breuddwydion]], [[Yr Alcoholig Llon]] ymysg eraill. Yn Saesneg mae wedi actio mewn cyfresi fel The Indian Doctor, The Bill a Holby City .
 
Yn ddiweddar, mae wedi bod yn un o sêr y gyfres Stella. <ref>[http://www.s4c.cymru/cofio/c_cofio_14_dafydd.shtml Cofio - Actor o Ddyffryn Aman ar Cofio; S4C; Adalwyd 2015-12-29]</ref>
 
Mae'n brif weithredwr Cwmni Mega, sydd wedi cynhyrchu pantomeimau Cymraeg yn flynyddol ers 1994.<ref>[http://www.theatre-wales.co.uk/companies/company_details.asp?ID=84 Manylion Cwmni Mega ; Adalwyd 2015-12-29]</ref>