Margaret Beaufort: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cymro
Llinell 13:
 
===Addewid i briodi Elizabeth===
Tyngodd Harri Tudur lw o ffyddlondeb i Elizabeth ar Ddiwrnod Nadolig 1483 yn Eglwys Gadeiriol Gwened (''Vannes''), gyda thua 500 o'i ffyddloniaid wedi ymgynull. Tyngodd hwythau lw o ffyddlondeb i Harri. I deuluoedd y Woodvilles a'r Iorciaid, roedd hyn yn golygu parhad y gwaed Iorcaidd ym mrenhiniaeth Lloegr; ac yn uno'r Iorciaid gyda'r Lancastriaid. Oherwydd hyn dyfnhaodd y teimlad mai Harri oedd gwir frenin Lloegr. O safbwynt Cymru, roedd yn uno'r Iorciaid fel Guto'r Glyn a'r Lancastriaid, ac felly'n uno Cymru dan faner y Tuduriaid, drwy'r Cymro Harri Tudur.<ref>Mae Chris Skidmore, yn ei lyfr ''Bosworth: The Birth of the Tudors'', yn galw Harri'n Gymro sawl tro e.e. tud. 152. ''In desperation, each of their futures had become forged to a mysterious Welshman, who most had never even met.''; tud. 154: ''For others, however, coming face to face with Henry, an unknown Welshman who many would probably heard of before....''; tud. ''... had little choice but to consider this unknown Welshman their candidate for the throne.''</ref>
 
==Gwaddol==
Roedd hi'n noddwr i'r argraffydd arloesol [[William Caxton]] a sefydliadau ym mhrifysgolion [[Prifysgol Rhydychen|Rhydychen]] a [[Prifysgol Caergrawnt|Caergrawnt]]. Hi fu'n gyfrifol yn ogystal am godi'r adeilad presennol o gwmpas Ffynnon Wenffrei yn [[Treffynnon|Nhreffynnon]], [[Sir y Fflint]] ([[1490]] - [[1500]]).