Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Cymro
Llinell 8:
 
==Harri'r Cymro==
Defnyddiodd ei gysylltiadau teuluol â Chymru i ennill cefnogaeth y Cymry i'w ymgyrch i gipio'r goron, ond ni ddefnyddiodd ei ddylanwad wedyn i adfer ymreolaeth y Cymry. Roedd y Cymry a'i dilynodd i faes Bosworth yn gobeithio mai Harri oedd y [[Mab Darogan]] - fel [[Owain Lawgoch]] ac [[Owain Glyndŵr]] o'i flaen - a fyddai'n adfer [[Ynys Brydain]] i'r [[Brythoniaid]], sef y [[Cymry]]. Erys ar glawr nifer o [[Canu Darogan|gerddi darogan]] neu [[Brud|frudiau]] o'r cyfnod hwnnw sy'n dangos mor angerddol oedd y gobaith fod yr amser hir-ddisgwyliedig wedi dod. Wythfed rhan o Gymro o ran ei waed oedd Harri ac nid oes sicrwydd ei fod yn medru siarad [[Cymraeg]] er iddo gael ei fagu yn y castell ym Mhenfro. Treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn [[Llydaw]]. Yn ôl yr hanesydd Chris Skidmore, fodd bynnag, fe'i nyrsiwyd am flynyddoedd gan wraig Philip ap Howel o Gaerfyrddin a fyddai "fwy na thebyg" wedi ei ddysgu i ddeall a siarad Cymraeg'. Rhaid cofio hefyd, er mai Iorcydd oedd yn rheoli'r rhan fwyaf o Dde Cymru yr adeg honno, gan gynnwys Castell Penfro, sef [[William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)]], ei fod yn ŵr diwylliedig iawn, ac yn dipyn o arwr i [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]] fel [[Guto'r Glyn]].<ref>''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 32.</ref> Mae Skidmore yn ei alw'n 'Gymro' drwy gydol ei waith.<ref>Mae Chris Skidmore, yn ei lyfr ''Bosworth: The Birth of the Tudors'' yn galw Harri'n Gymro sawl tro e.e. tud. 152. ''In desperation, each of their futures had become forged to a mysterious Welshman, who most had never even met.''; tud. 154: ''For others, however, coming face to face with Henry, an unknown Welshman who many would probably heard of before....''; tud. ''... had little choice but to consider this unknown Welshman their candidate for the throne.''</ref>
 
Mewn llythyr gan [[Louis XI, brenin Ffrainc|Louis XI]] at Guillaume Compaing, deon o [[Orleans]], dywedd Louis dro ar ôl tro (gan gyfeirio at ei ymosodiad aflwyddiannus gyda Siasbar, pan laniodd tair llong Ffrengig yn aber yr afon [[Dyfi]]: ''Pe bai Siasbar yn dymuno dychwelyd i Gymru i adennill ei diroedd yna byddai'n cael ffafrau (gen i) i gyflawni hynny, a sawl tro bu pwysau arno gan bobl yng Nghymru i wneud hynny.... Rhoddodd y Brenin (Ffrainc) pob ffafr posibl iddo wneud hynny oherwydd clymiadau teuluol agos, fel y gallai adennill, cadw ac amddiffyn ei ystadau a'i diroedd yng Nghymru.'' Nid unwaith y sonia'r y Brenin mai ymosodiad ar Loegr ydoedd. Barn rhai haneswyr o Loegr yw nad oedd llinach Gymreig Harri wedi chwarae unrhyw ran ym Mrwydr Bosworth a gorseddu Harri yn Frenin Lloegr.<ref>''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 94/5.</ref>
Llinell 33:
===Y gwrthryfel a fethodd===
Yn dilyn coroni [[Harri III]], cafwyd llawer o fân wrthryfela ledled Lloegr gydag ymateb y brenin newydd yn hynod o llawdrwm, a dihangodd llawer o bobl i Lydaw at Harri. Yn haf 1483 cydgordiodd mamau Harri ac [[Elisabeth o Efrog]], sef [[Margaret Beaufort]] ac [[Elizabeth Woodville]] wrthryfel arall, fyddai'n digwydd ar yr un adeg ag ymosodiad Harri ar Loegr. Cytunodd y dug Francis II brenin Llydaw i ddanfon saith llong gyda 517 o filwyr arfog, a gostiodd iddo dros 13,000 coron. Ond ar 18 Hydref, trodd y gwynt yn storm a gorfodwyd y cychod yn ôl i Lydaw. Roedd si o'r gwrthryfel wedi cyrraedd Richard III ac aeth ati i ddial; daliwyd [[Henry Stafford, ail ddug Buckingham]] a lladdwyd ef yng nghanol yr [[Amwythig]]. Yn dilyn ei farwolaeth, priododd Siasbar Tudur ei weddw Catherine. Methodd y gwrthryfel am ddau reswm, yn gyntaf roedd rebeliaid Caint wedi codi wythnosau cyn y dyddiad a gytunwyd, a thrwy hynny daeth Richard i glywed am y cynlluniau. Yn a,. ''It is striking that, in the list of men attained for their support of Buckingham, not a single Welsh name is mentioned.''</ref>
 
===Addewid i briodi Elizabeth===
Tyngodd Harri Tudur lw o ffyddlondeb i Elizabeth ar Ddiwrnod Nadolig 1483 yn Eglwys Gadeiriol Gwened (''Vannes''), gyda thua 500 o'i ffyddloniaid wedi ymgynull. Tyngodd hwythau lw o ffyddlondeb i Harri. I deuluoedd y Woodvilles a'r Iorciaid, roedd hyn yn golygu parhad y gwaed Iorcaidd ym mrenhiniaeth Lloegr; ac yn uno'r Iorciaid gyda'r Lancastriaid. Oherwydd hyn dyfnhaodd y teimlad mai Harri oedd gwir frenin Lloegr. O safbwynt Cymru, roedd yn uno'r Iorciaid fel Guto'r Glyn a'r Lancastriaid, ac felly'n uno Cymru dan faner y Tuduriaid, drwy'r Cymro Harri Tudur.
 
==Plant==