Delwyn Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
 
== Gyrfa Wleidyddol ==
Safodd Williams yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Ceidwadol am y tro cyntaf ym Maldwyn yn Etholiad Cyffredinol 1970. Llwyddodd ennill 7,891 pleidlais (twf o +2.3% ar ganlyniad Ceidwadol 1966) ond trechwyd gan [[Emlyn Hooson]]- a fu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros yr etholaeth ers [[IsetholiadIs-etholiad Maldwyn, 1962|isetholiadis-etholiad 1962]].
 
Safodd yn yr etholaeth eto fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1979|Etholiad Cyffredinol 1979]], gan lwyddo i drechu Hooson dro hyn gyda mwyafrif o 1,593 pleidlais. Dyma'r tro cyntaf am gwta canrif i'r etholaeth adael meddiant y Blaid Ryddfrydol.<ref>Derec Llwyd Morgan (gol.). Emlyn Hooson: Essays and Reminiscences. (Llandysul: Gomer: 2014)</ref> Ceisiodd Williams amddiffyn ei sedd yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1983|Etholiad Cyffredinol 1983]], ond collodd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol, [[Alex Carlile]] o 668 pleidlais.