Ffleminiaid de Penfro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Fflandrysiaid
Llinell 1:
'''Fflandrysiaid neu Ffleminiaid de Penfro''' yw'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at y [[Ffleminiaid]] a ymsefydlodd yn ne [[Sir Benfro|Penfro]] yn y [[12fed ganrif]] gan drawsnewid iaith a diwylliant yr ardal am byth.
 
Ceir y cyfeiriad cyntaf atynt ym ''[[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]]'' am y flwyddyn [[1108]]. Mae'r [[brut]] yn cofnodi fel y daeth y Ffleminiaid (pobl "o darddiad ac arferion rhyfeddol") i [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] ar orchymyn y brenin [[Saeson|Eingl]]-[[Normaniaid|Normanaidd]] [[Harri I o Loegr]]. Â'r croniclydd yn ei flaen i ddweud eu bod wedi cipio'r cyfan o [[Rhos (Dyfed)|gantref Rhos]] ac wedi gyrru allan y trigolion gwreiddiol i gyd.<ref>Thomas Jones (gol.), ''Brut y Tywysogyon'', fersiwn Llyfr Coch Hergest (Caerdydd, 1955), tud. 53.</ref>