Brwydr Maes Bosworth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ail sgwennu'r rhagymadrodd
cofeb Pont y Pistyll
Llinell 20:
 
Glaniodd [[Harri Tudur]] ym [[Pont y Pistyll|Mhont y Pistyll]] ger [[Dale]] yn [[Sir Benfro]],<ref>Y Gwyddoniadur Cymreig; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; tud 93.</ref> ar [[7 Awst]], gyda byddin fechan o Lancastriaid, yn [[Ffrancwyr]], [[Llydawyr]] ac [[Albanwyr]] yn bennaf, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd o Benfro tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, ac yn ardal [[Cefn Digoll]] ger [[Y Trallwng]] ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan [[Rhys ap Thomas]], gwŷr [[Gwent]] a [[Morgannwg]] dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Dywedir bod Harri wedi ymgynghori â'r brudwr enwog [[Dafydd Llwyd o Fathafarn]] yn ei blasdy bychan ym [[Mathafarn]] ar ei ffordd yno i gael ei farn ; chwaraeodd y [[Canu Darogan|cerddi brud]] a gylchredai yng Nghymru ran bwysig yn ymgyrch Harri Tudur fel modd i ysbrydoli ei gefnogwyr yng Nghymru i gredi mai ef oedd y [[Mab Darogan]] hirddisgwyliedig a fyddai'n adfer [[Ynys Prydain]] i feddiant y [[Brythoniaid]], gan wireddu'r hen ddarogan. Erbyn iddo gyrraedd Cefn Digoll roedd ganddo fyddin o tua 5,000.
[[Delwedd:Mill Bay plaque - Welsh - geograph.org.uk - 143660.jpg|bawd|chwith|Cofeb am laniad Harri Tudur ym [[Pont y Pistyll|Mhont y Pistyll]] ger [[Dale]] yn [[Sir Benfro]].]]
 
Roedd gan [[Rhisiart III, brenin Lloegr]] fyddin gryn tipyn yn fwy, ond roedd amheuaeth ynghylch teyrngarwch llawer ohonynt. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar safle gerllaw [[Sutton Cheney]] a [[Market Bosworth]] yn [[Swydd Gaerlŷr]] yng nghanolbarth Lloegr, ond mae dadl ynglŷn â'r union leoliad. Roedd tua 6,000 o wŷr dan Arglwydd Stanley a'i frawd, ac wedi iddynt wrthod ymuno a'r frwydr ar y dechrau, ymosodasant i gefnogi Harri Tudur. Lladdwyd Richard, a daeth Harri Tudur yn frenin fel Harri VII.