Prifardd a golygydd [[Cymry|Cymreig]] ydyyw '''Myrddin ap Dafydd''' (ganwyd [[25 Gorffennaf]] [[1956]] yn [[Llanrwst]]). Addysgwyd ef yng [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]]. Sefydlydd [[Gwasg Carreg Gwalch]] yn 1980. Cyhoeddodd nifer o ddramâu, cyfres o lyfrau ar lên gwerin, llyfrau i blant yn Gymraeg a Saesneg, a'r cylchgrawn ''Llafar Gwlad.'' Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, ac enillodd gadeiriau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002. Mae'n byw yn Llwyndyrys ger [[Pwllheli]], [[Gwynedd]].<ref>[http://www.academi.org/rhestr-o-awduron/i/129857/ Academi.org]</ref>