Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sieffre o Fynwy"

Lleihawyd o 4 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
Cywiriadau ieithyddol
B (→‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB)
B (Cywiriadau ieithyddol)
==Bywyd==
 
Ni wyddys ymhle y ganed Sieffre, ond mae ei enw yn awgrymu mai yn ne—ddwyrainne-ddwyrain Cymru y ganed ef. Mae ei ddisgrifiad o [[Caerllion|Gaerllion]] yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' yn awgrymu ei fod yn gyfarwydd â'r ardal. Roedd ei deulu yn wreiddiol o [[Llydaw|Lydaw]]. Aeth i [[Prifysgol Rhydychen|Brifysgol Rhydychen]] ac ymddengys ei enw ar freinlen abaty Osney, [[Rhydychen]] ynym [[1129]] ac ar chwe dogfen arall o ardal Rhydychen rhwng y flwyddyn honno a [[1151]]. Disgrifir ef fel ''magister'' yn rhai o'r dogfennau hyn.
 
Ar 24 Chwefror [[1152]] cysegrwyd ef yn [[Esgob Llanelwy]] gan [[Archesgob Caergaint]]. Nid oes cofnod iddo ymweld â'i esgobaeth, oedd yn rhan o deyrnas [[Owain Gwynedd]]. Bu Owain yn dadlau'n ffyrnig ag Archesgob Caergaint ynglŷn â phenodiad [[Esgob Bangor]]; nid oes cofnod a oedd penodiad Sieffre i Lanelwy yn dderbyniol iddo. Yn ôl y croniclau Cymreig bu farw ynym [[1155]].
 
==Gweithiau==
Llyfr cyntaf Sieffre oedd y ''Prophetiae Merlini'' ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin [[Myrddin]] ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw [[Cymraeg]], a chafodd dderbyniad brwd.
 
Gwaith enwocaf Sieffre oedd yr ''[[Historia Regum Britanniae]]'' (Hanes Brenhinoedd Prydain) a ymddangosodd yn dechrauddechrau'r flwyddyn [[1136]]. Mae'n adrodd hanes Ynys Prydain o ddyfodiad [[Brutus o Gaerdroea]], disgynnydd [[Aeneas]], hyd farwolaeth [[Cadwaladr]] yn y [[7fed ganrif]]. Bu dylanwad y llyfr ymahwn yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Mae'n debyg mai prif ffynonellau Sieffre oedd gweithiau [[Gildas]] (''De Excidio Britanniae''), [[Beda]] a [[Nennius]], ond gyda llawer o'r cynnwys yn ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun.
 
Rhwng tua [[1149]] a [[1151]] ysgrifennodd Sieffre gerdd Ladin o 1538 o linellau, y ''[[Vita Merlini]]'' ('Buchedd Myrddin'), yn ailadrodd hanes Myrddin gan dynnu ar y traddodiadau Cymreig amdano.
13

golygiad