Dinasyddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Aelodaeth o gymdeithas wleidyddol yw '''dinasyddiaeth''', gyda'r hawl i gyfrannu yn y wleidyddiaeth honno. [[Dinas]] oedd y gymdeithas honno yn wreiddiol ond heddiw [[gwladwriaeth]] ydyw fel rheol. Gelwir aelod o gymdeithas felly yn '''ddinesydd'''. Heddiw, mae dinasyddiaeth gan amlaf yn cyfeirio at aelodaeth gyfreithiol o [[gwladwriaeth|wladwriaeth]], a'r hawliau a dyletswyddau a ddaw o hynny. Ceir hefyd ambell enghraifft o ddinasyddiaeth uwchgenedlaethol, megis [[dinasyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd]] a [[dinasyddiaeth y Gymanwlad]]. Gan amlaf mae dinasyddiaeth person yn unfath â'i [[cenedligrwydd|genedligrwydd]]
Mae ''dinasyddiaeth'' hefyd yn golygu gweithio er lles y gymuned drwy wirfoddoli ac ymdrechu i wella bywyd yr holl ddinasyddion. Mae rhai [[ysgol (addysg)|ysgolion]] yng [[Cymru|Nghymru]] a [[Lloegr]] yn rhoi gwersi dinasyddiaeth, neu [[astudiaethau dinesig]], sydd yn amrywiad bach ar [[Addysg Bersonol a Chymdeithasol]].
|