William Morgan (esgob): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
llun o dudalen teitl ei Feibl
B Cywiriadau ieithyddol
Llinell 39:
}}
[[Delwedd:1588 First Welsh Bible.jpg|bawd|Tudalen deitl Beibl William Morgan]]
Yr Esgob '''William Morgan''' ([[1545]] - [[10 Medi]] [[1604]]) oedd y gŵr a gyfieithodd [[y Beibl]] yn gyflawn i'r [[Cymraeg|Gymraeg]] am y tro cyntaf. Cyhoeddwyd ei Feibl ynym [[1588]]. Credir yn gyffredinol mai hynny gymaint a dim arall fu'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi, a hynny am nad oedd gan yr iaith unrhyw statws na defnydd swyddogol o gwbl fel arall am ganrifoedd dan y drefn a osodwyd ar Gymru gyda'r "[[Deddfau Uno]]".
 
==Ei yrfa==
Ganwyd William Morgan yn [[Tŷ Mawr Wybrnant|Nhŷ Mawr y Wybrnant]], ger [[Penmachno]], yn fab i denant ar ystad [[Castell Gwydir|Gwydir]]. Mae'n debyg i dirfeddianwr yr ystad, [[Morys Wyn]], ddarparu addysg ar gyfer rhai o feibion ei denantiaid trwy ei gaplan personol. Ymddengys i'r bardd [[Edmwnd Prys]] fod yn gyd-fyfyriwr yr un pryd a William Morgan. Aeth y ddau wedyn i [[Coleg Sant Ioan, Caergrawnt|Goleg Sant Ioan]], [[Caergrawnt]]. Treuliodd William Morgan dair blynedd ar ddeg yn y brifysgol gan feistroli [[Lladin]], [[Groeg (iaith)|Groeg]], [[Hebraeg]], [[Aramaeg]], [[Ffrangeg]], ac [[Almaeneg]].
 
Apwyntiwyd ef yn ficer [[Llanbadarn Fawr]] ynym [[1572]], yna'r [[Trallwng]] ynym [[1575]] a [[Llanrhaeadr-ym-Mochnant|Llanrhaeadr-ym-ochnant]] ynghyd â [[Llanarmon Mynydd Mawr]] ym [[1578]]. Yn yr un flwyddyn apwyntiwyd ef hefyd yn Bregethwr y Brifysgol yng Nghaer-grawnt. Yn ystod ei gyfnod yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant priododd â Catherine ferch George ac yno hefyd y gwnaeth llawer o'i waith cyfieithu, gan weithio yno hyd at ei ddyrchafiad yn [[Esgob Llandaf]] ynym [[1595]]. YnYm [[1601]] daeth yn [[Esgob Llanelwy]] lle y bu hyd at ei farwolaeth ynym [[1604]].
 
==Cyfieithu'r Beibl==
Roedd cyfieithiad [[William Salesbury]] o'r [[Testament Newydd]] wedi bod ar gael ers [[1567]], ac er fod yna dipyn o feirniadu ar Gymraeg hwnnw, roedd cyfieithiad Salesbury yn rhoi sail hynod werthfawr i gyfieithiad newydd William Morgan. Erbyn [[1587]] roedd wedi gorffen cyfieithu'r [[Hen Destament]], y Testament Newydd a'r [[Apocrypha]], ac fe aeth y cyfan drwy'r wasg ynym [[1588]].
 
Canmolwyd y cyfieithiad gan lenorion cyfoes, yn cynnwys [[Siôn Tudur]], [[Siôn Dafydd Rhys]], [[Ieuan Tew]] a [[Morris Kyffin]].