Llyn Syfaddan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
Llinell 1:
[[Delwedd:LlangorseLake.JPG|bawd|Crannog Llyn Syfaddan.]]
 
'''Llyn Syfaddan''' neu '''Llyn Syfaddon''' yw llyn naturiol mwyaf de Cymru, gydag [[arwynebedd]] o 132 [[ha]] (327 acer), tua milltir ar ei hyd a phum milltir (8 km) o gwmpas y glannau. Saif ychydig i'r de-ddwyrain o [[Aberhonddu]], [[Powys]], ym [[Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog|Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog]] a gerllaw pentref [[LlangorsLlan-gors]], sy'n rhoi'r enw Saesneg ''Llangorse Lake'' iddo. Mae [[Afon Llynfi (Powys)|Afon Llynfi]] yn llifo trwy'r llyn.
 
Mae'r llyn yn nodedig am gynnig pysgota da am nifer o rywogaethau o bysgod, ond yn arbennig [[Penhwyad]]. Yma hefyd ceir [[crannog]], sef sefydliad wedi ei adeiladu ar ynys artiffisial mewn llyn. Y crannog yn Llyn Syfaddan yw'r unig esiampl y gwyddir amdano yng Nghymru, er eu bod yn gyffredin yn [[Iwerddon]] a'r [[Alban]]. Credir fod yr esiampl yma yn dyddio o ddiwedd y [[9fed ganrif]]. Roedd teulu brenhinol [[Brycheiniog]] o darddiad Gwyddelig, ac efallai fod hyn yn egluro presenoldeb crannog yma. Yn 916 ceir cofnod am fyddin [[Mercia]] yn dinistrio ''Brecenanmere'', crannog Llyn Syfaddan, yn ôl pob tebyg.