Yr Eglwys yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
Llinell 8:
 
==Esgobaethau==
Mae talaith yr Eglwys wedi'i rhannu'n chwe esgobaeth. Rhennir yr Eglwys yng Nghymru yn chwechchwe esgobaeth, a gofelir am bob un gan Esgob. Ym mhob un o’r esgobaethau y mae dwy neu dair o archddiaconiaethau; mae pymthegpymtheng archddiaconiaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru. Penodir Archddiacon i bob un, ac y mae'r Archddiacon yn atebol i'r Esgob am eu gweinyddu. Rhennir yr Archddiaconiaethau ymhellach yn Ddeoniaethau.
 
Y mae gan bob un o’r chwechchwe esgobaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru Gadeirlan. Hi yw mam-eglwys yr esgobaeth. Yma hefyd y mae 'cadair' yr Esgob. Yn y Gadeirlan y cynhelir digwyddiadau pwysig, megis Sefydlu Esgob newydd. Y mae i bob Cadeirlan ei Deon. Fe’i penodwyd i redeg y Gadeirlan, gyda chymorth y Siapter. Ynghyd â'r Archddiaconiaid, y mae Deon y Gadeirlan yn un o glerigion mwyaf blaenllaw’r esgobaeth ar ôl yr Esgob.
 
Rheolir pob Cadeirlan yng Nghymru gan Siapter, sy'n cynnwys y Deon a nifer o Ganoniaid, a ddewisir o blith clerigion yr esgobaeth.