Genyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu 3
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
James D. Watson a Francis Crick
Llinell 9:
==Hanes ei ddarganfod==
Darganfyddodd [[Gregor Mendel]] (1822–1884) unedau sy'n gyfrifol am etifeddu nodweddion y rhieni.<ref>{{cite journal | vauthors = Noble D | title = Genes and causation | journal = Philosophical Transactions. Series A, Mathematical, Physical, and Engineering Sciences | volume = 366 | issue = 1878 | pages = 3001–3015 | date = Medi 2008 | pmid = 18559318 | doi = 10.1098/rsta.2008.0086 | url = http://rsta.royalsocietypublishing.org/cgi/pmidlookup?view=long&pmid=18559318 | format = Free full text | bibcode = 2008RSPTA.366.3001N }}</ref> Rhwng 1857 a 1864 astudiodd y patrymau gweledol mewn [[pys]] bwytadwy gan gofnodi'r nodweddion a oedd yn newid o un genhedlaeth i'r llall. Disgrifiodd y rhain yn [[mathemateg|fathemategol]] fel amrywiadau&nbsp;2<sup>n</sup> (ble mae 'n' yn golygu'r nifer o nodweddion gwahanol. Ni ddefnyddiodd y term 'genyn' (na ''gene''!), disgrifiodd ei ganlyniadau mewn modd a wahaniaethodd rhwng [[genoteip]] a [[ffenoteip]] (nodweddion gweledol sydd yn gwahaniaethu organebau byw. Ef hefyd a ddisgrifiodd y "dosbarthiad naturiol", sef y gwahaniaeth rhwng [[genyn trechol]] a ffactorau enciliol. Ef hefydd a nododd am y tro cyntaf y gwahaniaeth rhwng [[heterosygot]] a [[homosygot]].
 
Darganfuwyd strwythut y [[moleciwl]] DAN yn 1953 gan James D. Watson a Francis Crick.<ref>{{cite book |title=The Eighth Day of Creation: Makers of the Revolution in Biology |last=Judson |first=Horace |authorlink=Horace Freeland Judson |year=1979 |publisher=Cold Spring Harbor Laboratory Press |isbn=0-87969-477-7 |pages=51–169}}</ref><ref name=watsoncrick_1953a>{{cite journal |url=http://www.nature.com/nature/dna50/watsoncrick.pdf |doi=10.1038/171737a0 |title=Molecular Structure of Nucleic Acids: A Structure for Deoxyribose Nucleic Acid |year=1953 |last1=Watson |first1=J. D. |last2=Crick |journal=Nature |volume=171 |pages=737–8 |pmid=13054692 |first2=FH |issue=4356 |bibcode=1953Natur.171..737W}}</ref> Esblygodd eu syniadaeth yn ddogma a ddaeth yn asgwrn cefn bioleg moleciwlaidd, sy'n datgan fod [[protin]]au yn cael eu trawsblannu o'r [[RNA]] sydd yn ei dro'n cael ei drawsblannu o'r DNA. Gelwir yr astudiaeth o [[geneteg|eneteg]] ar lefel y DNA yn eneteg foleciwlaidd.
 
 
==Geirdarddiad==