Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Glanio ym Mhenfro: delwedd o'r daith drwy Gymru
Llinell 45:
 
===Glanio ym Mhenfro===
[[Delwedd:Y daith drwy Gymru i Fosworth March through Wales to Bosworth using Wales relief location map 3.svg|bawd|310px|Taith Harri Tudur drwy Gymru.]]
Ni chafwyd ymosodiad arnynt o fath yn y byd, a chysgodd byddin Harri o fewn tafliad carreg i Gastell Dale. Yn y bore, martsiodd y fyddin i [[Hwlffordd]], dinas weinyddol Sir Benfro yr adeg honno, a chawsant gryn groeso gan y dinasyddion, yn enwedig gan fod y gwir 'Iarll Penfro', sef Siasbar Tudur yn un o'r criw. Ymunodd y Cymro [[Arnold Butler]] gyda Harri gan fynegi fod y cyfan o Benfro y tu ôl iddo; roedd y ddau wedi cyfarfod misoedd ynghynt yn Llydaw i drefnu'r ymosodiad. Cyfaill agosaf Arnold Butler oedd Rhys ap Thomas, ac roedd hyn yn allweddol i lwyddiant y Cymry. Ymunodd dau arall: [[Gruffydd Rede]] o Gaerfyrddin a'i filwyr a [[John Morgan o Dredegar]], [[Gwent]]. Ar yr ail o Awst, dringodd y fyddin drwy Fwlch-y-gwynt a thros [[Mynydd Preseli|Mynyddoedd y Preselau]] ac ymlaen i'r gogledd tuag at y Fagwyr Lwyd, ychydig i'r de o Gilgwyn.