Dracoraptor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd |
manion |
||
Llinell 1:
[[Genws]] o [[deinosor|ddeinosoriaid]] ydy'r '''''Dracoraptor hanigani''''' (Cymraeg: '''Lleidr y Ddraig'''). Darganfuwyd eu [[ffosil]]iau yng Nghymru yn y [[2010au]]. Pan oedd yn fyw, roedd y deinosor o faint ci bychan
Roedd y dracoraptor yn 70cm o uchder ac yn ddwy fetr o flaen ei drwyn i'w gynffon.
Darganfuwyd y ffosiliau yn 2014 mewn craig waddodol ger Glwb Golff Morgannwg, [[Larnog]], a chredir fod y deinosor, ar un cyfnod, wedi marw ar arfordir ynys lle ysgubwyd ef gan y trai i'r môr a'i orchuddio gan wely'r môr a fu'n gyfrifol am ei gadw mewn cyflwr da, a'i ffosileiddio. Mae'n fwy na phosib mai cyw oedd y ''Dracoraptor hanigani'' a bod yr oedolyn tipyn mwy, gan nad yw'r esgyrn wedi asio yn ei gilydd.
|